50% o weithwyr yn cael eu cam-drin
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwil newydd gafodd ei arwain gan dîm o Brifysgol Caerdydd wedi canfod fod hanner gweithwyr Prydain wedi cael eu cam-drin dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Roedd yr arolwg yn dangos fod 4.9% o weithwyr wedi diodde' trais tra bod 22.3% yn dweud iddyn nhw gael eu trin mewn modd amharchus neu anfoesgar.
Dywedodd 27% eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu.
Daeth y canlyniadau o ganlyniad i gyfweliadau wyneb yn wyneb gyda 3,979 o weithwyr.
Bydd adroddiad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) yn cael ei gyflwyno mewn cynhadledd ddydd Mercher.
Sector cyhoeddus
Cafodd yr adroddiad - 'Mewnwelediad i gam-drin yn y gweithle: patrymau, achosion ac atebion' - ei ysgrifennu gan academyddion o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd a'r Athro Duncan Lewis o Ysgol Fusnes Prifysgol Plymouth.
Roedd gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn enwedig yn wynebu risg o anfoesgarwch, amarch, trais ac anaf.
Roedd y rhan fwyaf o'r bobl fu'n rhan o ddigwyddiadau treisgar yn dod o'r tu allan i'r gweithle, gyda 72% o ymosodwyr yn gwsmeriaid, cleientau neu aelodau o'r cyhoedd.
Gweithwyr ym meysydd iechyd, gwaith cymdeithasol, addysg, gweinyddiaeth gyhoeddus ac amddiffyn oedd yn wynebu'r risg uchaf.
Roedd staff yn y sector preifat yn fwy tebygol o wynebu ymosodiadau gan gydweithwyr.
Roedd gweithwyr anabl, rhai gyda phroblemau iechyd tymor hir a staff ieuanc yn fwy tebygol o wynebu camdrin yn y gweithle - felly hefyd pobl hoyw, lesbiaid a deurywiol.
'Pwysau gwaith amhosib'
Mae'r adroddiad hefyd yn honni fod rhwng 7 ac 8 miliwn o weithwyr Prydain yn diodde' o "bwysau gwaith amhosib" ac yn cwyno fod neb yn gwrando arnyn nhw.
Rheolwyr ac arolygwyr oedd yn cael y bai am ddau draean o ddigwyddiadau o ymddygiad amhriodol, ond maen nhw hefyd yn gallu diodde'r un driniaeth.
Dywedodd un o awduron yr adroddiad, yr Athro Ralph Fevre o Brifysgol Caerdydd:
"Yn anffodus, mae'r astudiaeth yn dangos fod trais, camdrin ac ymddygiad afresymol yn rhy gyffredin mewn lleoedd gwaith ym Mhrydain.
"Mae polisïau cyflogaeth cyffredin, datganiadau ymddygiad yn y gwaith a gweithdrefnau cwynion yn amlwg yn methu.
"Roedd llawer o reolwyr yn gweld lles eu staff yn isel ar eu rhestrau blaenoriaethau, tra bod rhai hyd yn oed yn teimlo bod disgwyl iddyn nhw drin eu staff yn wael.
"Rydym yn awgrymu y dylai rheolwyr gael safonau o drin eu staff gyda chwrteisi yn cael eu hystyried fel rhan hanfodol o'u gwaith nhw."
Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad y byddai system effeithiol o reoli absenoldeb oherwydd salwch yn y gweithle yn gallu chwarae rôl bwysig wrth leihau achosion o gam-drin staff.
Bydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno mewn seminar gan ESRC fel rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol yn Llundain ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2011
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2010
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2009