Sêl bendith i dai newydd ger ffordd ddeuol

  • Cyhoeddwyd
A494, Aston HillFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Byddai'r stad yn cael ei hadeiladu ger ffordd yr A494 yn Aston Hill

Mae cynlluniau i adeiladu stad o dai ar safle prosiect aflwyddiannus i ledu ffordd yn Sir y Fflint wedi cael caniatâd gan gynghorwyr.

Cafodd cynnig i ledu ffordd yr A494 yn Queensferry i saith lôn ei wrthod wedi ymchwiliad yn 2007.

Ond roedd trigolion oedd yn byw gerllaw eisoes wedi cael eu symud o'u cartrefi ar gyfer y datblygiad a 50 o dai wedi'u dymchwel.

Nawr mae grŵp sy'n cydweithio gyda chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru eisiau ailddatblygu'r safle.

Mae'r cynlluniau ar gyfer Aston Mead yn cynnwys 21 o dai dau, tri a phedwar llofft ecogyfeillgar.

Codi gwrychyn

Mae adroddiad gan swyddogion cynllunio cyngor Sir y Fflint yn dweud na fyddai'r datblygiad yn effeithio ar unrhyw gynlluniau posib i ledu'r ffordd yn y dyfodol.

Roedd y cynllun ar gyfer ffordd yr A494/A550 wedi codi gwrychyn nifer o'r trigolion lleol.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Y bwriad fyddai creu tai fforddiadwy ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cynta'

Cafodd ymgyrch yn erbyn y cynlluniau hwb yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym mis Awst 2006 - flwyddyn cyn yr oedd disgwyl i'r gwaith ddechrau.

Cynhaliwyd ymchwiliad cyhoeddus yn 2007, cyn i arolygwr cynllunio wrthod y cais ac i Lywodraeth Cymru gyhoeddi fod y cynllun wedi'i roi o'r neilltu ym mis Mawrth 2008.

Daeth tua 2,700 o wrthwynebiadau i law ac fe gostiodd yr ymchwiliad bron i £87,000.

Ers hynny, mae'r tir gerllaw'r ffordd ddeuol yn Aston Hill wedi bod yn ddiffaith.

Tai fforddiadwy

Nawr mae cynllun tai gan Grŵp Tai Pennaf - sydd â'u pencadlys yn Llanelwy, Sir Ddinbych - wedi cael sêl bendith mewn cyfarfod o gyngor Sir y Fflint ddydd Mercher.

Y bwriad yw adeiladu tai fforddiadwy ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cynta', sy'n gwneud defnydd o dechnegau ecogyfeillgar, megis paneli solar a system ailgylchu dŵr glaw.

Dywedodd John Butler, un o'r trigolion lleol oedd yn gwrthwynebu'r prosiect ffordd, bod 'na rhywfaint o gefnogaeth i godi mwy o dai fforddiadwy ond roedd yn amheus a ddylai'r tai gael eu hadeiladu mor agos at brif ffordd.

"Dwi ddim yn credu ei bod hi'n addas codi tai drws nesa' i ffordd ddeuol brysur," meddai.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol