Archfarchnad i gyflogi 500?
- Cyhoeddwyd
Dywed cwmni Sainsbury's eu bod am godi archfarchnad newydd yn Sir Benfro gan gyflogi 500 o staff llawn a rhan amser.
Mae'r cwmni yn gwneud cais cynllunio i godi archfarchnad 60,000 troedfedd sgwâr yn Hwlffordd.
Bydd cyfle i bobl leol weld y cynlluniau yn cael eu harddangos mewn gwesty lleol yr wythnos nesa.
Yn ogystal ag archfarchnad, mae'r cwmni am ddarparu maes parcio ar gyfer 477 o siopwyr a gorsaf betrol.
Dywedodd John Davies, arweinydd Cyngor Penfro: "Mae'n galonogol fod hyder gan archfarchnad adnabyddus fel Sainsbury's i wneud buddsoddiad mor fawr o ystyried yr hinsawdd economaidd."
Dywedodd y cynghorydd Davies y byddai'n rhaid i'r cynlluniau gael sêl bendith proses craffu manwl cyn cael eu cymeradwyo.
Straeon perthnasol
- 12 Mawrth 2011
- 26 Mai 2005