Rhestr o eitemau peryglus a ataliwyd rhag mynd i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Y SeneddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae diogelwch Y Senedd ac adeialdau'r Cynulliad yn rhan o swyddogaeth yr heddlu a swyddogion diogelwch

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod bwled, nwy CS a chyllyll ymhlith eitemau sydd wedi eu cymryd oddi ar ymwelwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Daeth y rhestr i BBC Cymru ar ôl cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Heddlu De Cymru sydd wedi cyflwyno'r wybodaeth am yr eitemau rhwng mis Ebrill 2009 a mis Hydref 2011.

Ymhlith yr eitemau eraill yr oedd dau ddwrn haearn neu 'knuckle duster'.

Aed â'r eitemau oddi ar ymwelwyr i'r Senedd ac i Dŷ Hywel, lle mae swyddfeydd y gwleidyddion a newyddiadurwyr.

Doedd 'na ddim gwybodaeth ynglŷn â pham yr oedd yr eitemau yma gan unigolion na be ddigwyddodd i'r unigolion.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu eu bod yn gweithio ochr yn ochr â thîm mewnol y Cynulliad er mwyn sicrhau bod ymwelwyr i'r adeiladau, a'r bobl sy'n gweithio yno, yn cael eu cadw'n ddiogel.

"Mae'r uned yn cysylltu gyda'r timau sy'n gyfrifol am drefniadau diogelwch ac yn cynnal ymchwiliadau yn ogystal â chynnig hyfforddiant a chyngor."

Bygythiad

Yn ôl llefarydd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol dydyn nhw ddim yn gwneud sylw ar faterion diogelw

Mae'r Athro Anthony Glees, cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau Diogelwch a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Buckingham, wedi dweud wrth BBC Cymru bod y bygythiad diogelwch i adeiladau fel y Cynulliad Cenedlaethol yn dal i gael ei ystyried i fod yn uchel.

"Mae hyn er gwaethaf marwolaeth Osama bin Laden yn gynharach eleni a bod y brwydro yn Irac ac Afghanistan yn lleihau.

"Mae'n dal yn destun syndod bod rhai yn ceisio mynd ag arfau i mewn i adeiladau'r Cynulliad.

"Fe ddylai peiriannau archwilio fel rhai pelydr x edrych i mewn i fagiau pobl sicrhau nad yw'r eitemau peryglus yma a allai gael eu defnyddio ar gyfer ymosodiadau terfysgol fynd i mewn i'r senedd.

"Mae diogelwch yn dynn iawn, yn enwedig o ystyried y bygythiad terfysgol.

"Er bod y bygythiad wedi lleihau rhywfaint, mae'n dal yn uchel iawn."

Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi talu teyrnged i'r heddlu a staff diogelwch y Cynulliad am eu hymdrechion i sicrhau'r eitemau hyn.

Eglurhad pellach

Mae'r Ceidwadwyr hefyd wedi galw am eglurhad o'r amgylchiadau a arweiniodd at ganfod yr eitemau, a beth ddigwyddodd i'r rhai oedd yn cario nhw.

"Mae'r heddlu a staff diogelwch yn gwneud gwaith allweddol a gwych yn y Cynulliad," meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar Fusnes, Nick Ramsay.

"Mae'n amlwg bod rhai o'r eitemau ar y rhestr yn codi braw rhai ac mae angen eglurhad am yr amgylchiadau a be ddigwyddodd wedi iddyn nhw gael eu cymryd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur eu bod yn ddiolchgar iawn am effeithiolrwydd y staff diogelwch.

"Mae'n bryder gweld bod arfau wedi eu cymryd, ond o ystyried cymaint sy'n mynd a dod bob dydd, mae'n ddigon gwir dweud mai bach iawn o achosion ydi'r rhain."

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, Kirsty Williams, bod edrych ar y rhestr yn atgoffa pawb am y gwaith allweddol mae'r staff diogelwch a'r heddlu yn ei wneud.

"Maen nhw'n gweithio 24 awr y dydd i sicrhau bod aelodau a staff yn gallu gwneud eu gwaith yn ddiogel."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru, eu bod yn "werthfawrogol iawn o waith yr Heddlu yn y Cynulliad ac yn ein cymunedau".

"Dyma ddangos gwaith yr heddlu yn effeithio yn uniongyrchol ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ddiogelu ein Senedd genedlaethol, y rhai sy'n gweithio yna ac ymwelwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol