Arddangos llun swffragét i’r cyhoedd

Llun o Margaret Haig Thomas, Is-iarlles Rhondda ©Palas Westminster Image copyright Other
Image caption Bu farw Margaret Haig Thomas yn 1958

Mae darlun o swffragét flaenllaw Cymreig yn cael ei arddangos i'r cyhoedd.

Ymgyrchodd Margaret Haig Thomas, is-iarlles Rhondda, dros yr hawl i ferched eistedd a phleidleisio yn Nhŷ'r Arglwyddi yn 1920.

Bydd ei darlun, gan yr arlunydd Alice Mary Burton yn 1932, i'w gweld yng ngaleri brenhinol Tŷ'r Arglwyddi tan y Nadolig.

Disgrifiodd Barwnes Gale o Flaenrhondda'r is-iarlles fel "dynes nodedig'.

Ganed Margaret Haig Thomas yn 1883, yn ferch i wleidydd Rhyddfrydol gyda busnesau glo, cyhoeddi ac allforio.

Ond pan etifeddodd ei theitl gan ei thad, nid oedd gan ferched yr hawl i eistedd na phleidleisio yn Nhŷ'r Arglwyddi. Felly, gwnaeth gais o dan y Ddeddf Gwaharddiad Rhywiol 1919 a phleidleisiodd yr Arglwyddi o'i phlaid hi.

Ond roedd Arglwydd Penbedw, yr Arglwydd Ganghellor ar y pryd, yn erbyn y penderfyniad a llwyddodd yn ei wrthwynebiad.

Serch hynny, aeth Margaret Haig Thomas ymlaen i lansio'r cylchgrawn wythnosol, Time and Tide, ac roedd â rhan flaenllaw o'r Grŵp Chwe Phwynt, un o'r rhai cyntaf i ymgyrchu dros hawliau merched, gan gynnwys tâl a chyfleoedd cyfartal.

Bu iddi fyw yn ddigon hir i fod yn dyst i'r Ddeddf Urddolaethau Bywyd yn 1958, ond bu farw cyn gweld y fenyw gyntaf i gymryd ei sedd fel urddolyn bywyd ddiwedd y flwyddyn honno.

Ychwanegodd Barwnes Blaenrhondda, sy'n aelod o Bwyllgor Gweithredol Tŷ'r Arglwyddi a chynt yn ysgrifennydd cyffredinol ar Blaid Lafur Cymru:

"O gymryd yr awenau i holl fusnesau ei thad i weithio dros gael aelodaeth lawn i Dy'r Arglwyddi, roedd Is-iarlles Rhondda ar flaen y gad o safbwynt hawliau merched trwy gydol ei bywyd."

Dywedodd y farwnes ei bod hi ac eraill ar y pwyllgor yn hapus iawn y byddai'r cyhoedd o'r diwedd yn "cael cyfle i weld llun o'r fenyw nodedig yma ac am ddysgu rhagor am ei bywyd anghyffredin."

Mae'r llun yn rhan o'r casgliad celf sy'n olrhain hanes a gweithgareddau'r senedd Brydeinig.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.