'Aros rhy hir' am gadair olwyn
- Cyhoeddwyd

Honnir fod defnyddwyr cadeiriau olwyn yng Nghymru yn aros yn rhy hir am gadeiriau newydd neu waith atgyweirio.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, bod y Gwasanaeth Iechyd yn gadael cleifion i lawr er gwaetha' adroddiad beirniadol 18 mis yn ôl.
Ychwanegodd fod amseroedd aros am gadeiriau neu waith atgyweirio wedi tyfu.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £2.2 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i'r gwasanaeth gan wella ymarferion gwaith a hyfforddi staff newydd.
Yn 2010, fe ddaeth Pwyllgor Iechyd y Cynulliad i'r casgliad fod loteri cod post yn bodoli gyda phobl yng ngogledd Cymru yn aros yn hirach i gael cadeiriau olwyn na phobl y de.
Cadeirydd y pwyllgor ar y pryd oedd Mr Millar, a dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn derbyn fod y gwasanaeth wedi gwella i ddefnyddwyr newydd, ond nid o safbwynt uwchraddio neu atgyweirio cadeiriau presennol.
Dirywio
"Rwy'n credu fod y gwasanaeth yn gadael pobl i lawr," meddai.
"Mae'r amserlen i gael uwchraddiad neu waith atgyweirio yn dirywio'n gyflym.
"Does dim dwywaith fod arian wedi cael ei fuddsoddi a dwi'n croesawu hynny.
"Mewn gwirionedd mater o sut y mae'r gwasanaeth yn cael ei reoli a'i fonitro yw hyn er mwyn i'r llywodraeth sicrhau eu bod yn delifro."
Mae gan Zoe Walker, 16 oed o Landrillo-yn-Rhos yn Sir Conwy, gyflwr prin ar ei chyhyrau o'r enw Congenital Fibre Type Disproportion sy'n golygu ei bod angen cadair olwyn.
Ond mae hi'n aros ers tro am waith i gael ei wneud ar ei chadair drydan a'r un gyffredin.
"Roedd cael y gadair drydan yn golygu y gallwn fynd i'r coleg ar fy mhen fy hun, ac roedd felly'n rhoi annibyniaeth i mi," dywedodd.
"Nawr ei fod wedi torri, does gen i ddim annibyniaeth.
"Mae'n rhwystredig iawn."
Dywedodd ei thad Phil bod hi'n cymryd misoedd ar fisoedd er mwyn datrys y problemau lleiaf.
"Mae fy merch yn ddewr iawn a byth yn cwyno am ei hanabledd.
"Ond mae'n rhaid i ni frwydro a brwydro."
'Gwella safonau'
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod 1,000 o therapyddion wedi cael eu hyfforddi ar draws Cymru er mwyn cyflymu'r broses gychwynnol, a bod clinigau ychwanegol wedi agor yng nghanolbarth a gorllewin Cymru er mwyn lleihau amseroedd teithio ac aros i gleifion.
"Yn dilyn ein hadolygiad o wasanaethau cadair olwyn yng Nghymru, rydym wedi buddsoddi £2.2 miliwn ychwanegol i leihau amseroedd aros yn enwedig i blant a phobl ifanc," meddai llefarydd.
"Rydym yn dyblu nifer y staff clinigol ar draws Cymru sy'n asesu unigolion, ac yn eu galluogi i gael y gadair fwyaf addas ar gyfer eu hanghenion.
"Ar yr un pryd, rydym yn mabwysiadu ymarferion gwaith newydd er mwyn gwella safonau."
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2011
- 6 Mawrth 2009
- 8 Gorffennaf 2009