Sul y Cofio yn yr oes ddigidol
- Cyhoeddwyd

Mae tudalennau teyrnged ar wefannau fel Facebook wedi bod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ac wrth i Sul y Cofio nesáu mae'r ffyrdd mae pobl yn cofio'r meirw yn newid hefyd.
Preifat Richard Hunt oedd y 200fed milwr i farw yn Afghanistan a phenderfynodd ei rieni greu sawl cofeb iddo gan gynnwys enwi math o genhinen Pedr - Y Rhyfelwr Cymreig - er cof amdano.
Mae ei fam, Hazel Hunt o'r Fenni, yn rhedeg Sefydliad Richard Hunt gan godi arian i greu canolfan adferiad ar gyfer aelodau o'r fyddin sydd wedi'u hanafu.
Gosod llun
Dywedodd eu bod wedi dewis y genhinen Pedr i adlewyrchu balchder Richard o fod yn Gymro ac i greu rhywbeth diriaethol i helpu pobl i gydymdeimlo â'r milwyr yn Afghanistan.
"Mae llawer o bobl ifanc yn cysylltu rhyfeloedd â'r Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd am fod cymaint o sôn amdanynt," meddai Mrs Hunt.
Mae Bethan Herbert yn gweithio i wefan y Lleng Brenhinol Prydeinig.
Mae hi wedi sylwi bod y defnydd o babïau rhithwir ar y we yn fwy poblogaidd ers iddynt gael eu cyflwyno dwy flynedd yn ôl.
"Mae genyn ni gyfrion Twitter a Facebook sy'n weithredol drwy'r flwyddyn ac mae genyn ni dau ymgyrch digidol eleni," meddai.
"Un ohonynt yw Ysgwydd wrth Ysgwydd, lle mae pobl yn gallu llwytho llun ohonynt yn gwisgo pabi i ddangos eu cefnogaeth.
Atgyfnerthu
"Yr ymgyrch arall yw Tawelwch yn y Sgwâr, bydd yn cael ei weithredu yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain rhwng 10am a 11am ar Ddiwrnod y Cofio eleni.
"Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu ar y we felly bydd pobl yn gallu'i wylio ar-lein."
Dywedodd Ms Herbert fod yr ymgyrchoedd rhithwir yn atgyfnerthu'r prif ymgyrch yn hytrach na'i ddifrïo.
"Mae llawer o bobl yn gofyn pam ydyn ni'n cynnal yr ymgyrchoedd ar y we am nad ydyn ni'n codi unrhyw arian.
"Ond mae'r ymgyrchoedd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth yn anad dim."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2011