E.coli: Cau gwelyau cregyn pysgod
- Cyhoeddwyd

Glaw trwm sydd wedi ei feio am y lefelau uchel o e.coli yn Sir Benfro
Mae dau wely pysgod cregyn yn Sir Benfro wedi eu cau dros dro wedi i samplau brofi'n bositif am e.coli.
Mae pobl wedi eu rhybuddio i beidio cymryd wystrys o'r ardal rhwng Pont Cleddau a Phwynt Picton na chasglu cregyn gleision o Lawrenni.
Ni ddylai pobl fwyta unrhyw bysgod cregyn gan gynnwys cocos tan i'r gwelyau ail agor.
Yn gynharach yr wythnos hon fe gafodd gwelyau cocos ar Gilfach y Tywyn eu cau dros dro wedi i samplau brofi'n bositif am e.coli.
Mwy o brofion
Dywedodd Cyngor Sir Penfro mai'r rheswm am y lefelau uwch na'r arfer o e.coli oedd y cyfnod o law trwm diweddar.
Dywed y cyngor y byddai mwy o brofion yn cael eu cynnal ac y byddai'r gwelyau yn cael eu hail agor cyn gynted ag y byddai'r samplau yn dychwelyd i'r lefelau arferol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol