Arian loteri yn hwb i eglwysi Conwy
- Cyhoeddwyd

Mae bron i £100,000 wedi ei ddyfarni i ddwy eglwys sydd angen eu hadfer yn Sir Conwy.
Bydd Eglwys Sant Elian yn Llanelian-yn-Rhos ac Eglwys Sant Cynfran yn Llysfaen yn defnyddio'r arian a ddyfarnwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ymdrin â phroblemau lleithder.
Dywedodd y Parchedig Manon Parry, rheithor Llysfaen, byddai'r £52,000 a ddyfarnwyd i Eglwys Sant Cynfran yn diogelu dyfodol yr eglwys.
Bydd Eglwys Sant Elian yn derbyn £39,000 bydd yn cael ei ddefnyddio i gynnal a chadw tu allan yr adeilad.
'adeilad hanesyddol'
Mae Eglwys Sant Elian yn dyddio yn ôl i 13eg ganrif ac mae ganddi ffenestri sy'n dyddio yn ôl i'r canol oesoedd, yn ôl Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwys-Powys.
Maen nhw'n dweud fod eglwys wedi bodoli yn Llysfaen ers yr wythfed ganrif.
Dywedodd y Parchedig Parry: "Rydyn ni ar ben ein digon am ein bod wedi cael y grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
"Bydd yr arian yn debygol o sicrhau dyfodol yr adeilad hanesyddol hwn sy'n gwasanaethu cymunedau Llysfaen, Penmaen rhos a Pheulwys."
Mae Cyngor Conwy hefyd yn gwneud cyfraniad i helpu ariannu'r "cynlluniau hollbwysig" hyn.
Dywedodd rheithor Llanelian, y Parchedig Phil Attack: "Rydyn ni wedi bod yn aros am fisoedd am y newyddion hyn.
"Dydych chi ddim yn gallu bod yn sicr bod eich cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn mynd i fod yn llwyddiannus.
"Felly roedd yn anhygoel i dderbyn yr e-bost a gadarnhaodd y grant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011
- Cyhoeddwyd26 Medi 2011