Cludo pennaeth cynllun i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth cynllun oedd i fod i gynorthwyo stad o dai difreintiedig ac sy'n wynebu achos llys i adennill arian a dwyllodd o'r cynllun, wedi cael ei chludo i'r ysbyty.
Daeth Miriam Beard, 55 oed o Henllan, Sir Ddinbych, â'r achos twyll yn ei herbyn i ben yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau drwy newid ei phle i euog.
Ddydd Gwener, cafodd parafeddygon eu galw i'r llys ar ôl i'w bargyfreithiwr ddweud wrth y barnwr ei fod yn ymddangos ei bod wedi cymryd tabledi.
Gadawodd y llys mewn cadair olwyn ac aed â hi i'r ysbyty.
Mae'n cyfadde' iddi "odro" mwy na £51,000 o gynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc ger Wrecsam.
Bydd yn cael ei dedfrydu yn yr wythnos yn dechrau Rhagfyr 5.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2010