Nani yn 'bradychu' ei chyflogwyr
- Cyhoeddwyd

Mae nani a oedd wedi'i chyhuddo o ddwyn dros £6,000 oddi wrth ei chyflogwyr yn Llanandras ym Mhowys wedi cael cyfnod o garchar wedi'i ohirio am 12 mis.
Roedd Beatrice Dalton, 25 oed, yn gwarchod pedwar o blant y Fonesig Louisa Collings, merch Dug Richmond.
Clywodd y llys fod Dalton wedi cael cerdyn credyd gan y teulu er mwyn talu am betrol, nwyddau ac anrhegion i'r plant.
Ond fe ddefnyddiodd y cerdyn at ddibenion personol.
Dywedodd Dalton wrth yr heddlu iddi gymryd yr arian oedd yn ddyledus iddi.
Dywedodd Hywel Hughes ar ran yr erlyniad fod y nani wedi bradychu ymddiriedaeth y teulu.
Iawndal
Roedd hi'n gwario £500 arni hi eu hun wrth ddefnyddio'r cerdyn, meddai.
Cafodd Dalton, o Benarth ger Caerdydd ei dedfrydu i 12 mis o garchar wedi ei ohirio am 12 mis.
Bydd yn rhaid iddi wneud 250 awr o waith di-dâl.
Rhoddwyd gorchymyn iddi dalu iawndal o £4,800 i'r Fonesig Louisa Collings a'i gŵr o fewn tri mis.
Bydd yn rhaid iddi hefyd dalu costau o £3,500.
Dywedodd y barnwr Richard Twomlow: "Doedd eich tystiolaeth yn y llys ddim yn parchu'r gwirionedd.
"Nid oeddech chi mewn anhawster ariannol, felly trachwant oedd eich cymhelliad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011