Cerbyd ar gopa: Llys y Goron
- Cyhoeddwyd

Y cerbyd ar gopa'r Wyddfa ar Fedi 29
Bydd achos dyn sydd wedi ei gyhuddo o yrru cerbyd gyriant pedair olwyn i gopa'r Wyddfa ddwywaith yn mynd i Lys y Goron.
Mae Craig Williams, 39 oed o Cheltenham, yn wynebu dau gyhuddiad o yrru'n beryglus yn ei Vauxhall Frontera.
Roedd o eisoes wedi ymddangos gerbron ynadon ar gyhuddiad o yrru'n beryglus ar fynydd uchaf Cymru ar Fedi 3.
Ddydd Gwener roedd gerbron ynadon Caernarfon eto i wynebu cyhuddiad tebyg rhwng Medi 27 a 30.
Dywed yr ynadon eu bod yn credu fod yr achos yn rhy ddifrifol iddynt ddelio ag ef, a chafodd ei anfon i Lys y Goron.
Mae Mr Williams yn gwadu'r cyhuddiadau.
Dywed yr erlyniad fod y car wedi difrodi rhan o reilffordd Yr Wyddfa a llwybr troed.
Cafodd yr achos ei ohirio tan Ragfyr 2.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd29 Medi 2011
- Cyhoeddwyd5 Medi 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol