Glaw yn achosi problemau yn y de ddwyrain

Y dŵr ar Rodney Prade nos Wener Image copyright BBC news grab
Image caption Bu'n rhaid oedi cyn y gic gyntaf ar Rodney parade oherwydd y tywydd cyn ei chanslo

Bu'n rhaid galw am gymorth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i bwmpio dŵr o ward mewn ysbyty ddydd Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysbyty Sant Cadoc yng Nghaerllion nad oedd yn rhaid symud cleifion a bod y dŵr wedi ei glirio.

Effeithiodd glaw trwm ar ardal Casnewydd hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod wedi derbyn 18 o alwadau rhwng 4.30pm a 5.30pm yn ymwneud â llifogydd yn ardal Maindy.

Oherwydd y traffig roedd traffig yn araf ar y lôn orllewinol ar draffordd yr M4 yn ardal Casnewydd.

Bu amheuaeth a fyddai'r gêm rhwng y Dreigiau a'r Gleision yn cael ei chwarae.

Yn wreiddiol roedd y gêm i fod i ddechrau am 7.05pm yn Rodney Parade.

Ond oherwydd y glaw bu'n rhaid aros i'r dyfarnwr Nigel Owens fodloni fod y cae yn ddiogel.

Ond toc wedi 8pm fe wnaed y penderfyniad gyda hyfforddwyr y ddau dîm na fyddai'r gêm yn cael ei chwarae.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.