Menna Richards: 'Bygythiad' i ddarlledu Saesneg yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae angen i wleidyddion a ffigyrau blaenllaw o fewn y byd darlledu yng Nghymru wneud mwy er mwyn atal y bygythiad i ddarlledu yn yr iaith Saesneg.
Dyna eiriau cyn-gyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards.
Fe ddywedodd fod dadleuon diweddar ynglŷn â dyfodol darlledu Cymreig wedi canolbwyntio ar S4C, gyda phrinder yn y sylw sy'n cael ei roi i raglenni Saesneg.
Ms Richards, a adawodd ei swydd gyda BBC Cymru ym mis Chwefror, oedd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Archif Wleidyddol Cymru yn Aberystwyth ddydd Gwener.
Yn y ddarlith 'I settled Wales last Thursday - a view from the frontier of broadcasting', mae hi'n awgrymu bod y rhai sy'n llunio barn yn Yr Alban yn aml yn fwy effeithiol wrth wneud hynny na'u cyfoedion yng Nghymru.
Sylw
"Mae'n drawiadol bod y ddadl ddiweddar am ddarlledu wedi bod ynglŷn â dyfodol S4C," meddai.
"Mae hynny yn ddealladwy.
"Er hynny dwi wedi synnu mai ychydig iawn o sylw mae dyfodol rhaglenni teledu Saesneg yng Nghymru wedi ei gael gan wleidyddion ac eraill."
Eglurodd bod y nifer o oriau o raglenni teledu Saesneg oedd yn cael eu darlledu gan BBC Cymru wedi gostwng 16% rhwng 2007 a 2011.
"Mae'n ddefnyddiol yn yr achos yma i gymharu Cymru â'r Alban," meddai,
Dywed fod Yr Alban yn wynebu arbedion anodd, tebyg i Gymru.
"Ond rwyf wastad wedi ei gweld hi'n ddyrys fod y lefel o ddiddordeb a thrafodaeth yno yn llawer mwy dwys.
"Mae papurau newydd yn Yr Alban a'r gwleidyddion yn cwyno, yn ysgrifennu, yn beirniadu ac yn ymosod ar uwch reolwyr y BBC yn Llundain.
Dywedodd y byddai rheolwyr y BBC yn gweld hyn fel "gormodaeth o emosiwn".
"...ond fe fyddwch chi'n gwybod y bydden nhw (Yr Alban) fel arfer yn cael rhyw fath o gonsesiwn er mwyn eu cadw'n dawel.
"Mae angen i'r BBC yn ganolog glywed gan wleidyddion, golygyddion papurau newydd ac eraill eu bod nhw yn poeni am y bygythiad i wasanaeth yn Saesneg yng Nghymru yn ogystal â'r bygythiadau sy'n wynebu S4C.
"Fe allwch chi fentro y byddan nhw'n gwneud hynny yn Yr Alban."