Canslo gêm y Dreigiau v Gleision oherwydd y glaw

  • Cyhoeddwyd
Rodney Parade wedi'r glawFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Oherwydd y dŵr oedd ar y cae bu'n rhaid canlso'r gêm

Bu'n rhaid canslo'r gêm gynghrair Pro12 rhwng y Dreigiau a'r Gleision nos Wener oherwydd y tywydd.

Roedd dilyw ar gae Rodney Parade.

Roedd y gêm i fod i ddechrau am 7.05pm.

Ond am dros awr bu staff a gwirfoddolwyr yn ceisio clirio'r dŵr oedi ar y cael.

Dywedodd y dyfarnwr Nigel Owens y byddai'n gohirio dechrau'r gêm tan 8pm.

Toc wedi 7.30pm y cafodd y cefnogwyr fynd i mewn i'r stadiwm.

Ond yn fuan wedi 8pm fe wnaeth y dyfarnwr a'r ddau hyfforddwr ddod i gytundeb na ellir mynd ymlaen gyda'r gêm.

"Diogelwch y chwaraewyr oedd a sydd bwysica'," meddai Owens.

'Siomedig'

"Ry'n ni wedi ceisio ein gorau ond mae'n anodd iawn gwybod pryd i dynnu'r llinell.

"Fe allen ni fod yn mynd ymlaen drwy'r nos.

"Mae'r sefyllfa yn anodd iawn ac mae diogelwch y chwaraewyr yn flaenoriaeth i ni'n," ychwanegodd.

Dywedodd Darren Edwards, hyfforddwr y Dreigiau, eu bod yn naturiol yn siomedig.

"Mae pawb wedi gweithio yn galed iawn i geisio clirio'r cae.

"Roedd pob tocyn wedi ei werthu a phawb yn edrych ymlaen.

"Ond mae diogelwch y chwaraewyr yn allweddol."

Dyna hefyd oedd ar flaen meddwl Gareth Baber, hyfforddwr y Gleision.

"Diogelwch y chwaraewyr sydd bwysica.

"Yn naturiol fe fyddem eisiau chwarae ond mae angen bod yn ofalus.

"Mae'r criw yma wedi gwneud eu gorau i glirio'r cau ond mae'r tywydd wedi ein trechu."

Dyma fyddai gêm gyntaf nifer o sêr Cymru ers dychwelyd o Gwpan y Byd yn Seland Newydd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol