Y Bala 3-0 Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Taith hir adre' fydd yn wynebu Aberystwyth ar ôl iddyn nhw golli o dair gôl i ddim yn erbyn Y Bala yn yr unig gêm i gael ei chwarae nos Wener yn Uwchgynghrair Corbett Sports Cymru.
Gwelodd y dorf o dros 400 ym Maes Tegid ddwy gôl yn yr hanner cyntaf, un gan Lee Hunt wedi 42 munud ac un arall saith munud yn ddiweddarach i Mark Connolly.
Cafodd Hunt drydedd gôl y tîm cartref wedi bron i 10 munud o'r ail hanner.
Nos Wener yn eu gêm gyfartal o ddwy gôl yr un yn erbyn Y Denewydd fe wnaeth Y Bala sgorio eu 100fed gôl yn y gynghrair.
Dim ond ers 2009 y maen nhw yn rhan o'r gynghrair.
Canlyniadau
Nos Wener:
Bala 3-0 Aberystwyth
I ddod:
Dydd Sadwrn:
Lido Afan v Bangor
Caerfyrddin v Prestatyn
Y Drenewydd v Port Talbot
Y Seintiau Newydd v Llanelli
Dydd Sul
Airbus v Castell-nedd