Gwobrau i ferched 'ysbrydoledig' Asaidd Cymru

Meena Upadhyaya, darlithydd mewn geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd Image copyright Other
Image caption Cafodd Meena Upadhyaya ei henwebu am Wobr Cymraes y flwyddyn yn 2008

Mae 20 o bobl ysbrydoledig wedi cael eu henwi ar restr fer ar gyfer gwobrau newydd.

Bwriad Gwobrau Cyraeddiadau Merched Asiaidd Cymru yw codi proffil merched Asiaidd a dangos y cyfraniad y maen nhw'n ei wneud i fywyd Cymru.

Fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn cinio arbennig yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Sadwrn.

Meena Upadhyaya, darlithydd mewn geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd, sydd wedi trefnu'r gwobrau.

Dywedodd ei bod yn teimlo nad oes 'na gynrychiolaeth deg o ferched Asiaidd Cymreig.

'Esiampl'

Fe fydd 'na enillwyr mewn chwe chategori: y celfyddydau; rheolaeth ac arweiniad; busnesau bach; dyngarol a chymdeithasol; hunanddatblygiad a thechnoleg a meddygaeth.

Eglurodd Yr Athro Upadhyaya bod merched Asiaidd yn adnabyddus am eu gwyleidd-dra ac felly y bwriad yw dathlu eu llwyddiannau a'u cyfraniad i gymdeithas Cymru ac i ganfod merched all fod yn "esiampl ar draws y gymuned".

Mae hi am godi proffil merched Asaidd yng Nghymru ers iddi hi gael ei henwebu yn 2008 yng Ngwobrau Cymraes y Flwyddyn.

"Ar y pryd hynny fe wnes i sylweddoli nad oedd merched Asaidd Cymru yn cael eu cynrychioli yn deg.

"Dwi'n gobeithio y bydd hyn yn dangos bod mentergarwch ac ysbryd y merched yma yn dangos eu bod yn gallu cyfrannu at economi Cymru."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.