Tân: Cludo tri i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd

Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân yn Keeston ger Hwlffordd.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod un person dal yn cael ei drin am fewnanadlu mwg yn Ysbyty Llwynhelyg.

Ni wyddir hyd yn hyn beth achosodd y tân a ddechreuodd tua 1.20am fore Sadwrn.

Yn y cyfamser cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i ddiffodd tân yn fflat wag ym Mangor am 3.18am fore Sadwrn.

Mae swyddogion wedi dechrau cynnal ymchwiliad ynghylch y tân hwnnw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol