Speed: Dim gwaharddiad i Bale a Ramsey

Aaron Ramsey a Gary Speed Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bydd Speed yn siarad â Ramsey a Bale cyn y gêm yn erbyn Norwy

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru Gary Speed yn mynnu na fydd Aaron Ramsey a Gareth Bale yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i'w cyfle i chwarae i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.

Mae lluniau o Gareth Bale ac Aaron Ramsey yn gwisgo crysau cefnogi tîm Prydain wedi codi gwrychyn rhai o ddilynwyr pêl-droed Cymru.

Ond mae Speed wedi datgan nad yw'r lluniau wedi ei gythruddo cyn ail-adrodd gwrthwynebiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) i'r syniad.

"Dydyn ni ddim yn dweud wrthynt na allan nhw chwarae oherwydd eu penderfyniad nhw yw e," meddai Speed wrth adran chwaraeon y BBC.

gêm gyfeillgar

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC) am i'w chwaraewyr chwarae yn nhîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain y flwyddyn nesaf.

Ddydd Gwener ceisiodd capten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey, dawelu meddyliau cefnogwyr na fydd e'n chwarae i dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd pe bai'n bygwth dyfodol Cymru fel gwlad pêl-droed annibynnol.

Image copyright Other
Image caption Bale oedd y chwaraewr cyntaf i gael ei weld yn gwisgo'r crys

Mae Ramsey a Bale wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Norwy yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, Tachwedd 12.

Bydd Speed yn cael cyfle i siarad â'r ddau chwaraewr am y sefyllfa wrth iddynt ymarfer yr wythnos nesaf.

"Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael sgwrs am y sefyllfa," meddai Speed.

"Ond dydyn ni ddim yn dweud na allwch chi chwarae...na allwch chi wneud hyn...na allwch chi wneud y llall.

"Dydyn ni ddim yn flin 'da nhw. Maen nhw wedi cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth y tîm."

Ond clybiau Bale a Ramsey bydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynglŷn â'r sefyllfa.

Stadiwm Wembley

Eisoes mae rheolwr Arsenal, Arsene Wener, wedi codi pryderon ynghylch syndrom chwythu plwc gan ddweud nad yw'r gystadleuaeth pêl droed yn y Gemau Olympaidd yn "gystadleuaeth go iawn".

Bydd y twrnamaint yn dechrau ar Orffennaf 26 ac yn gorffen ar Awst 11 pan fydd y gêm derfynol yn cael ei chwarae yn Stadiwm Wembley.

Ond mae Cymru fod chwarae eu gêm gyfeillgar olaf cyn dechrau eu hymgyrch yng ngemau cymhwyso Cwpan y Byd 2014 ar Awst 15.

"Fe fydd y gêm honno yn gêm fawr inni oherwydd hon fydd y gêm olaf cyn inni ddechrau ein hymgyrch," meddai Speed.

"Rydyn ni am chwarae gydag ein tîm cryfaf yn erbyn tîm fel Yr Eidal neu Sbaen.

"Dyna'r amser pryd fydd rhaid i'r bechgyn gwneud penderfyniad ynglŷn â'r Gemau Olympaidd."

Dim ond FA Lloegr sydd yn hapus i'r chwaraewyr gynrychioli'r tîm Prydain.

Bydd 'Prydain' yn cystadlu yng nghystadleuaeth bêl-droed y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf ers 1960 o dan oruchwyliaeth rheolwr tîm dan 21 Lloegr, Stuart Pearce.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.