Uwchgynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd yn dal ar frig Uwchgynghrair Cymru ar ôl buddugoliaeth yn erbyn Llanelli ddydd Sadwrn.
I bob pwrpas roedd y Seintiau Newydd wedi ennill y gêm erbyn hanner amser ar ôl i Alex Darlington a Greg Draper sgorio dwy gôl yr un.
Ond tarodd Llanelli yn ôl yn yr ail hanner trwy Rhys Griffiths a rwydodd ar ôl 54 munud cyn sgorio ei ail gôl o'r smotyn 11 munud yn ddiweddarach.
Rhoddodd Bangor y cyfle i'r Sentiau Newydd estyn eu mantais ar frig y tabl yn dilyn eu gêm ddi-sgôr yn erbyn Lido Afan.
Canlyniad gorau'r dydd oedd buddugoliaeth Caerfyrddin yn erbyn Prestatyn ond doedd hyn ddim yn ddigon i'w codi o waelod y gynghrair.
Sgoriodd Geraint Passmore a Jack Christopher i Gaerfyrddin cyn i Carl Murray sgorio gôl gysur i'r ymwelwyr.
Cafodd Y Drenewydd fuddugoliaeth gartref gyffyrddus yn erbyn Port Talbot diolch i goliau gan Max Penk a Luke Boundford.
Taith hir adre' oedd yn wynebu Aberystwyth ar ôl iddyn nhw golli o dair gôl i ddim yn erbyn Y Bala yn yr unig gêm i gael ei chwarae nos Wener yn Uwchgynghrair Corbett Sports Cymru.
Gwelodd y dorf o dros 400 ym Maes Tegid ddwy gôl yn yr hanner cyntaf, un gan Lee Hunt wedi 42 munud ac un arall saith munud yn ddiweddarach i Mark Connolly.
Cafodd Hunt drydedd gôl y tîm cartref wedi bron i 10 munud o'r ail hanner.
Canlyniadau
Nos Wener:
Bala 3-0 Aberystwyth
Dydd Sadwrn:
Lido Afan 0 Bangor 0
Caerfyrddin 2 Prestatyn 1
Y Drenewydd 2 Port Talbot 0
Y Seintiau Newydd 4 Llanelli 2
Dydd Sul
Airbus 2 Castell-nedd 2
Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports: Nos Sul Tachwedd 6 2011.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2011