Wrecsam yn dal ar y brig
- Cyhoeddwyd

Caerefrog 0-0 Wrecsam
Casnewydd 0 Ebbsfleet 1
Mae Wrecsam dal ar frig Uwchgynghrair Blue Square Bet ar ôl iddynt ennill pwynt oddi cartref yn erbyn Caerefrog.
Er hynny roedd Wrecsam yn haeddu ennill y gêm a dim ond nifer o arbedion gwych gan gôl-geidwad Caerefrog, Michael Ingham, a sicrhaodd y byddai'r tîm cartref yn ennill pwynt.
Gwastraffodd Wrecsam nifer o gyfleoedd i ennill yr ornest gan gynnwys un euraid i'r chwaraewr-rheolwr Andy Morrell.
Cafodd Jamie Tolley a Lee Fowler gyfloed da i Wrecsam hefyd.
Casnewydd
Mae Casnewydd dal yn trydydd o waelod y gynghrair wedi iddynt golli eu gêm gartref yn erbyn Ebbsfleet.
Yr asgellwr o Guyana, Ricky Shakes sgoriodd unig gôl y gêm ar ôl 20 munud.
Hon oedd y bedwaredd tro i'r Alltydion golli yn eu pum gêm gartref ddiwethaf.
Yr eilydd, Robbie Matthews gafodd gyfle gorau Casnewydd wrth i'r iddynt frwydro yn ofer am gêm gyfartal.