Caerdydd yn codi i'r pedwerydd safle
- Cyhoeddwyd

Kenny Miller yn dathlu wedi iddo sgorio gôl gyntaf Caerdydd ddydd Sadwrn
Mae Caerdydd wedi codi i'r trydydd safle ar ôl curo Crystal Palace o ddwy gôl i ddim yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Cyn yr ornest ddydd Sadwrn roedd gan Crystal Palace un pwynt yn fwy na'r Adar Gleision yn y pedwerydd safle.
Kenny Miller sgoriodd gôl gynta'r Adar Gleision wedi 69 munud cyn i Peter Whittingham ddyblu'r fantais 11 munud yn ddiweddarach.
Y rhain oedd y goliau cyntaf i Crystal Palace ildio mewn chwe gêm.
Mae Caerdydd wedi codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair Yn dilyn eu buddugoliaeth ddydd Sadwrn.
Fe fydd gêm nesaf Caerdydd yn erbyn Reading yn Reading ar Dachwedd 19.
Torf: 22,032