Galw am wasanaeth orthodonteg newydd
- Cyhoeddwyd

Gall pobl ifanc yng Ngheredigion sy'n gorfod teithio hyd at ddwy awr i weld orthodeintydd gael eu trin nes i'w cartrefi cyn bo hir.
Mae Bwrdd Iechyd yn ystyried cyflwyno gwasanaeth estyn allan yn y sir.
Dywed AC Ceredigion, Elin Jones, fod rhai o bobl ifanc y sir yn gorfod teithio am driniaeth ddeintyddol arbenigol i Abertawe, sydd 75 milltir (120 cilometr) i ffwrdd o Aberystwyth, neu Caerfyrddin, sydd 50 milltir (80 cilometr) i ffwrdd.
Dywedodd y Bwrdd iechyd eu bod yn deall pryderon eu cleifion.
Llawdriniaeth
Mae Ms Jones a chynghorydd tref Aberystwyth, Paul James, wedi annog swyddogion y bwrdd iechyd i ymateb ar frys gan fod plant yn colli ysgol i fynd i'w hapwyntiadau.
Mae Ben Reid, 16 oed, o Aberystwyth wedi bod yn cael triniaeth gan orthodeintydd yn Ysbyty Treforys, Abertawe ers 18 mis.
Does gan ei rieni ddim car felly mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd dalu am dacsi i'w gludo i Abertawe.
Cyn hyn bu rhaid i Ben ddal bws i Abertawe yn gynnar yn y bore cyn dychwelyd i Aberystwyth mor hwyr â 10pm ar adegau.
"Fe fydd rhaid imi gael llawdriniaeth y flwyddyn nesaf i ailosod fy ngên," meddai Ben.
"Fe fydd hi'n llawer mwy cyfleus pe bai gwasanaeth estyn allan yn cael ei gyflwyno yng Ngheredigion.
"Rwy'n adnabod pobl sydd yn gorfod teithio'n bell gan gynnwys un ffrind sy'n gorfod teithio o Fachynlleth i Abertawe."
Cyfarfu Ms Jones â'r Bwrdd Iechyd yn ddiweddar pan ddywedodd wrthynt nad oedd y diffyg triniaeth orthodentegyddol yng Ngheredigion yn dderbyniol.
"Yn ystod ein cyfarfod amlinellodd y bwrdd iechyd y camau maen nhw'n cymryd i geisio rheoli rhestr aros cleifion ifanc sydd angen triniaeth orthodentegyddol yn well," meddai.
"Hyd yn hyn mae hyn wedi cynnwys annog deintyddion i beidio cyfeirio cleifion cyn iddynt fod yn ddigon hen i dderbyn triniaeth."
Dywedodd y Dr Sue Fish, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Hywel Dda ei bod yn deall pryderon cleifion a'u teuluoedd ynglŷn â phroblemau teithio
Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd yn chwilio am atebion i ddarparu triniaeth orthodentegyddol yng Ngheredigion gan gynnwys gweithio gyda deintyddion lleol i ddatblygu diddordeb arbenigol mewn orthodonteg.