Ymosodiad: Heddlu Cyprus yn ymchwilio

  • Cyhoeddwyd

Mae heddlu Cyprus yn dweud eu bod yn chwilio am ddyn o Georgia yn dilyn ymosodiad ar ddyn o Gymru.

Y gred yw bod y dyn 27 oed yn dod o Gasnewydd ac mae e wedi bod yn uned gofal dwys mewn ysbyty ar yr ynys ers digwyddiad y tu allan i glwb nos penwythnos diwethaf.

Dywed yr heddlu fod y Cymro a'i frawd, 24 oed, wedi dadlau â phum dyn arall y tu allan i'r clwb nos yn Paphos ddydd Sul diwethaf.

Mae'r dyn yn cael ei drin am anafiadau i'w ben yn Ysbyty Nicosia.