Addfer cynllun cyswllt rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd
- Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaeth bws cyflym i gysylltu Glyn Ebwy a'r rheilffordd o Gaerdydd i Gasnewydd yn cael ei adfer tair blynedd wedi i wasanaeth tebyg ddod i ben.
Bydd y bws yn cysylltu â Thŷ-du ac yn rhedeg bob awr.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwasanaeth am flwyddyn yn dilyn galwadau i wella'r cyswllt trafnidiaeth rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd.
Penderfynwyd dileu'r cynllun gwreiddiol oherwydd prinder teithwyr.
'ymgyrchu'n gryf'
Dywedodd Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant byddai'r cynllun peilot yn cael ei gynnal am flwyddyn.
"Rwy'n gweld hyn fel y cam cyntaf i wella'r gwasanaeth rheilffordd rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd," meddai.
Bydd teithwyr yn gallu prynu tocynnau rheilffordd ar y bws ac fe fydd Cwmni Rheilffordd Arriva Cymru yn gwerthu tocynnau teithio i Gasnewydd.
Y disgwyl yw i'r siwrnai gymryd tua 16 munud.
Dywedodd arweinydd Cyngor Casnewydd, Matthew Evans: "Mae'r cyngor wedi derbyn sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd y cam nesaf o agor y cyswllt rheilffordd rhwng y ddwy ardal yn cael ei ystyried yn llawn.
"Fe fyddwn ni'n ymgyrchu'n gryf dros hyn oherwydd er ein bod ni'n croesawu'r gwasanaeth bws cyflym nid fydd y gwasanaeth yn cymryd lle'r gwasanaeth rheilffordd."
Dywedodd William Graham, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol dros De Ddwyrain Cymru fod wir angen y gwasanaeth i helpu adfywio canol dinas Casnewydd.
"Fe fydd angen hysbysebu'r gwasanaeth newydd yn groes i'r hyn ddigwyddodd â'r gwasanaeth blaenorol."