Hiliaeth: Cyhuddo pêl droediwr

Ricgard Offiong Image copyright Other
Image caption Mae Richard Offiong wedi datgan ei fod wedi anfon cwyn swyddogol i'r awdurdodau pêl droed.

Mae un o chwaraewyr tîm pêl droed Bae Colwyn wedi ei gyhuddo o hiliaeth gan bêl droediwr arall.

Mae chwaraewr Blyth Spartans, Richard Offiong, wedi trydar ar wefan Twitter fod un o chwaraewyr Bae Colwyn wedi dweud wrtho: "Ble mae eich pwysi o fananas, dangoswch eich pasport imi."

Mae Offiong wedi datgan wrth BBC Cymru ei fod wedi anfon cwyn swyddogol i'r awdurdodau pêl droed.

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd Bae Colwyn, Bob Paton: "Rydyn ni'n ymwybodol o beth sydd yn cael ei ddweud ac fe fyddwn ni'n cynnal ymholiad mewnol."

Ymholiad mewnol

Dywedodd y clwb Cymreig na fyddan nhw'n gwneud unrhyw sylwadau eraill ynghylch y mater tan i'r ymholiad mewnol gael ei gwblhau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl Droed wrth y BBC nad oedden nhw'n gallu cadarnhau eu bod wedi derbyn cwyn.

Mae BBC Cymru wedi ceisio cysylltu â Chymdeithas Bêl Droed Cymru am eu sylwadau.

Digwyddodd y digwyddiad honedig yn ystod y gêm rhwng Blyth Spartans a Bae Colwyn yng Nghynghrair y Gogledd Blue Square Bet ddydd Sadwrn.

Ym mis Hydref honnodd chwaraewr Queens Park Rangers, Anton Ferdinand, fod amddiffynnwr Lloegr a Chelsea, John Terry wedi ei alw'n enwau hiliol.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.