Ymchwiliad wedi i wal ddymchwel
- Cyhoeddwyd
Bu diffoddwyr tân yn defnyddio cŵn arbennig i sicrhau nad oedd unrhyw un wedi cael ei gaethiwo mewn rwbel, wedi i wal ddymchwel ger Abertawe.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle am 06:48am ddydd Llun, yn dilyn adroddiadau fod wal uchel wedi disgyn ar Ffordd Langland, Langland.
Cadarnhaodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nad oedd unrhyw un wedi cael ei anafu yn y digwyddiad.
Mae'n debyg bod y wal yn 12 troedfedd o uchder a dwy droedfedd o ddyfnder.
Yn ôl y gwasanaeth, roedd 'na tua 30 tunnell o rwbel wedi i'r wal ddisgyn.
Does dim cadarnhad ynglŷn â pham wnaeth y wal ddymchwel ond mae'r awdurdodau'n credu mai rhew oedd yr achos.