BBC Cymru Fyw

Arestio un o chwaraewyr Abertawe

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionDoedd Steven Caulker ddim yng ngharfan Abertawe ar gyfer y daith i Lerpwl

Mae amddiffynnwr clwb pêl-droed Abertawe, Steven Caulker, wedi cael hysbysiad cosb benodol am drosedd yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod dyn 19 oed wedi cael ei arestio yn oriau man fore Sadwrn ar Wind Street yn y ddinas a'i gludo i orsaf heddlu canol Abertawe.

Fe gafodd yr hysbysiad cosb benodol cyn cael ei ryddhau.

Doedd Caulker ddim yng ngharfan Abertawe, oedd wedi teithio i wynebu Lerpwl yn Anfield ar y diwrnod hwnnw.

Fe gafodd amddiffynnwr tîm dan-21 Lloegr ddechrau da i'r tymor i Abertawe, cyn cael ei anafu yn y gêm yn erbyn Arsenal.

Nid yw Clwb Pêl-droed Abertawe wedi gwneud sylw ar y mater hyd yma.

Straeon perthnasol

  • Lerpwl 0 Abertawe 0