Chwilio am ddyn stopiodd drên
- Cyhoeddwyd

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn apelio am help y cyhoedd wedi i ddyn orfodi trên i stopio cyn gadael ar hyd y trac.
Eisoes mae swyddogion wedi cyhoeddi llun camera cylch cyfyng o ddyn y maen nhw'n credu allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad rhwng Penmaenmawr a Chonwy ddydd Sadwrn, Hydref 8.
Dywedodd y Cwnstabl Neal Lindskog o Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn y Rhyl: "Aeth dyn ar y tren adawodd Birmingham International am 7:09am a chyrraedd Cyffordd Llandudno am tua 10:10am.
"Roedd hwn yn drên cyflym oedd yn pasio nifer o orsafoedd bach cyn stopio ym Mangor.
"Pan basiodd y trên orsaf Conwy aeth y dyn at y gard a gofyn pam nad oedd y tren yn stopio yno. Dywedwyd wrtho mai gwasanaeth cyflym ydoedd ac mai'r stop nesaf oedd Bangor.
"Dywedodd y dyn ei fod yn gadael beth bynnag ac ychydig eiliadau yn ddiweddarach fe bwysodd y botwm aros ar frys.
Daeth y trên i stop rhwng gorsafoedd Conwy a Phenmaenmawr.
"Wrth i'r gard gerdded yn ôl ar hyd y trên, fe welodd y dyn yn gwthio drysau'r trên ar agor cyn neidio a rhedeg i ffwrdd ar hyd y trac.
'Gwirion'
"Roedd gweithredoedd y dyn yn eithriadol o wirion. Nid yn unig y gwnaeth achosi i'r trên oedi, ond fe gymrodd risg enfawr yn neidio ar y trac.
"Petai trên yn dod o'r cyfeiriad arall, fe fyddai wedi cael ei ladd yn syth."
Dywedodd fod yr heddlu am holi dyn yn ei arddegau hwyr neu ei ugeiniau cynnar ac yn 5'7" o daldra.
Roedd y dyn â chorff tenau neu gymedrol yn gwisgo tracwisg dywyll gyda marciau melyn.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd yn nabod y person neu sydd â gwybodaeth mewn perthynas â'r digwyddiad yma i gysylltu gyda ni."
Dylai pobl â gwybodaeth ffonio'r Heddlu Trafnidiaeth ar 0800 405040, gan nodi cyfeirnod B9/WUA neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.