Dadorchuddio cloc newydd i Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd seremoni arbennig i ddadorchuddio cloc Pen y Pier Caerdydd ddydd Mawrth, gan ddathlu dychweliad y peirianwaith i'r ddinas ar ôl cyfnod yn America.

Saif rŵan o fewn cerflun ar Heol Eglwys Fair yn sgil gwelliannau i'r ardal hanesyddol yma o Gaerdydd.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Ddatblygiad Economaidd a Thrafnidiaeth, y Cyng. Neil McEvoy ar Gyngor Caerdydd: "Mae Heol Eglwys Fair a Heol Fawr wedi'u trawsnewid yn llwyr.

"Mae'r ardal ar ei newydd wedd yn hwylus dros ben i gerddwyr ac yn cynnig cyfleoedd newydd i'r busnesau ar y ddwy stryd. Mae llawer o fusnesau eisoes wedi gosod byrddau a chadeiriau y tu allan i fanteisio ar y lle ychwanegol sydd wedi'i ddarparu.

"Mae'r cloc newydd yn waith diddorol iawn a fydd yn gaffaeliad mawr i'r ardal".

Cafodd peirianwaith y cloc can mlwydd oed, sy'n seiliedig ar gloc Big Ben Llundain, ei osod yn wreiddiol yn Adeilad y Pierhead Bae Caerdydd yn 1887.

Ond ar ôl cael ei ddisodli gan beirianwaith electronig cafodd ei roi ar ocsiwn gan British Rail yn 1973 a'i werthu i gasglwr o America, Alan Heldman, dair blynedd yn ddiweddarach.

Er bod amryw ddarnau coll wedi'u hychwanegu, ni chafodd peirianwaith y cloc ei atgyweirio'n iawn erioed ac fe'i gadawyd yn segur yng ngweithdy Mr Heldman yn Alabama.

Yn 2004 penderfynodd y dylid dychwelyd y peirianwaith i Gaerdydd a nawr bydd yn sefyll yn ardal llongau'r ddinas cyn adeiladu'r dociau yn y 18fed ganrif.

Bydd y peirianwaith, sydd bellach wedi cael ei ailosod at ei gilydd a'i adfer, o fewn darn o waith celf gan Marianne Forrest, ac o'i gwmpas mae marc cwestiwn metelaidd, yn rhoi gwybodaeth am hanes y cloc ac ardal y dociau.

Mwncïod

Mae Marianne wedi bod yn gweithio gyda phlant o Ysgol Gynradd Mount Stuart, sydd wedi ei chynorthwyo trwy ymchwilio i mewn i adeiladau hanesyddol o amgylch Bae Caerdydd.

Mae'r cloc newydd hefyd yn cynnwys replica o dri o fwncïod a fydd yn seinio'r awr. Mae arwyddocâd hanesyddol i'r mwncïod hyn gan mai'r Ardalydd Bute, comisiynydd yr Adeilad y Pierhead gwreiddiol, a ddyluniodd y mwncïod ar gyfer un o'r ystafelloedd yng Nghastell Caerdydd i nodi ei fod yn gwrthod damcaniaeth esblygiad Charles Darwin.

Ariannwyd y cynllun hwn yn rhannol gan y Cyngor a thrwy nawdd gan nifer o gwmnïau.

Bydd parêd a seremoni i ddathlu'r cloc a'r gwelliannau i'r ardal yn cael ei chynnal wrth gyffordd Heol Eglwys Fair a Stryd Wood ddydd Mawrth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol