Cydlynydd mewn uned seiciatryddol
- Cyhoeddwyd

Mae cydlynydd cynllun Cymunedau'n Gyntaf, aeth â dros £50,000 drwy dwyll oddi wrth yr elusen, ar fechnïaeth mewn uned seiciatryddol.
Cafodd Miriam Beard ei chludo o Lys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener wedi i'r barnwr gael gwybod ei bod wedi cymryd tabledi.
Ddydd Iau fe newidiodd ei phle i yn euog o gyfres o gyhuddiadau o dwyll a dwyn yn gysylltiedig â chynllun Cymunedau'n Gyntaf ym Mhlas Madoc yn Acrefair ger Wrecsam.
Ddydd Llun fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands ei rhyddhau ar fechnïaeth i'r uned seiciatryddol yn Ysbyty Maelor Wrecsam tan ddydd Mawrth, gan ofyn am adroddiad oddi wrth seiciatrydd.
Yn y llys ddydd Llun roedd nyrs seiciatrig wrth ochr Mrs Beard a dywedodd ei bargyfreithiwr Russell Davies ei bod wedi cael triniaeth a chael ei monitro yn yr uned.
Ychwanegodd Mr Davies y byddai seiciatrydd yn adolygu ei chyflwr ac y byddai'r llys yn cael gwybodaeth fwy pendant ddydd Mawrth.
Bydd y diffynnydd 55 oed o Henllan ger Dinbych yn cael ei dedfrydu yn yr wythnos sy'n dechrau Rhagfyr 5 yn Llys y Goron Caernarfon.
Yng nghanol yr achos yr wythnos ddiwetha fe blediodd yn euog i naw cyhuddiad o dwyll ac fe blediodd ei mab, Darrell Kelly, 35 oed, yn euog i chwe chyhuddiad yn ei erbyn.
Dywedodd yr erlyniad fod Mrs Beard yn defnyddio asedau'r elusen at ei phwrpasau ei hun.
Straeon perthnasol
- 4 Tachwedd 2011
- 4 Tachwedd 2011
- 3 Tachwedd 2011
- 2 Tachwedd 2011
- 14 Rhagfyr 2010