Shaun Edwards yn barod i ystyried swydd gyda Lloegr
- Cyhoeddwyd

Mae Shaun Edwards yn barod i ystyried swydd hyfforddi gyda Lloegr wedi iddo adael clwb Wasps.
Ond ychwanegodd ei fod yn ymwybodol fod Undeb Rygbi Cymru yn awyddus i gynnig cytundeb arall iddo hefyd.
Daeth gêm olaf Edwards wrth y llyw gyda chlwb Llundain gyda'r golled o 24-13 i Northampton ddydd Sul.
Daeth cytundeb Edwards fel hyfforddwr amddiffyn Cymru i ben hefyd ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan Y Byd.
Dywedodd Edwards, 45 oed: "Rydych chi'n ystyried unrhyw rôl pan ydych chi'n rhydd. Dwi yma os oes rhywun am wneud cynnig."
Daeth Edwards i gytundeb i adael Wasps wedi deng mlynedd gyda'r clwb er mwyn chwilio am heriau newydd o fewn y gêm.
Er nad yw prif hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, wedi gwneud penderfyniad am ei ddyfodol, mae'r sibrydion yn cysylltu Edwards gyda swydd posib yn cynyddu.
Ond mae cyn chwaraewr rygbi 13 Prydain wedi datgelu fod Cymru yn awyddus i ymestyn ei gyfnod fel hyfforddwr gyda nhw.
Dywedodd Edwards: "Rwy'n gwybod fod Roger Lewis (prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru) wedi cysylltu ac mae ar fin gwneud cynnig.
"Fedrwch chi ond arwyddo rhywbeth pan mae e ar bapur felly rhaid aros i weld.
"Fe gafodd ei ddweud y byddwn i'n hyfforddi hen wragedd yn aros am fws gan mod i'n mwynhau hyfforddi cymaint.
"Gobeithio y byddaf yn ôl yn y gêm yn fuan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2011