Apêl ar ôl ymosodiadau ar ferched
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Abertawe yn apelio am wybodaeth ynglŷn ag ymosodiad anweddus ar ferch 23 oed yn y ddinas yn oriau mân bore Sadwrn.
Roedd y ddynes yn cerdded ar ei phen ei hun ar hyd Stryd Westbury i gyfeiriad Heol Walter pan ddaeth y dyn ati tua 2:15am.
Fe wnaeth y dyn ei bygwth yn llafar cyn ymosod arni.
Fe ddihangodd y dyn i gyfeiriad Heol Walter wedi i rywun ymyrryd yn ystod yr ymosodiad.
Yn ôl yr heddlu, mae'r ymosodwr â gwallt wedi'i eillio, yn denau, ac yn gwisgo siaced dywyll a throwsus golau.
'Mwy difrifol'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Peter Doyle: "Mae'n ffodus iawn fod rhywun oedd yn pasio wedi ymyrryd, gan fwy na thebyg atal y ferch rhag cael ei hanafu'n ddifrifol.
"Rhaid i ni ddal y dyn cyn iddo ymosod eto allai olygu canlyniadau llawer mwy difrifol."
Yn y cyfamser, mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi ymosodiad rhywiol yn y ddinas ar fenyw 58 oed yn ardal Heol Northill am 00.10am dydd Sul.
Roedd y dyn wedi ei helpu wedi iddi hi syrthio wrth gerdded yn ôl o'r Farmers Arms.
Yna fe ymosododd arni hi yn ei fflat hi.
Mae'r ymosodwr rhwng 17 a 19 oed ac roedd ei ddillad yn cynnwys trowsus tracwisg.
Fe gafodd ei ffôn symudol a'i phwrs eu dwyn.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am yr ymosodiadau i gysylltu â nhw ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.