Cefnogwr: Rhyddhau pedwar dyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd Michael Dye anafiadau marwol cyn y gêm yn Wembley fis Medi
Mae pedwar dyn gafodd eu harestio mewn perthynas â marwolaeth cefnogwr pêl-droed o Gymru wedi cael eu rhyddhau rhag eu mechnïaeth.
Cadarnhaodd Heddlu Llundain na fyddai camau pellach yn cael eu cymryd yn eu herbyn.
Bu farw Mike Dye y tu allan i Stadiwm Wembley cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr ym mis Medi.
Mae un dyn - Ian Mytton o Redditch - wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad ac mae disgwyl iddo bledio yn y llys yn ddiweddarach y mis hwn.
Straeon perthnasol
- 13 Hydref 2011
- 9 Medi 2011
- 9 Medi 2011
- 8 Medi 2011
- 7 Medi 2011