James Collins yn tynnu nôl eto o garfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Nid yw James Collins wedi chwarae yn saith gêm ddiwethaf Cymru

Mae amddiffynwr Aston Villa, James Collins, wedi tynnu nôl o garfan Cymru am y drydedd gêm yn olynol.

Chwaraeodd Collins 90 munud i'w glwb ddydd Sadwrn, ond ni fydd yn chwarae i Gymru yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.

Tynnodd Collins allan o gemau mis Hydref yn erbyn Y Swistir a Bwlgaria gydag anaf i'w ben-glin.

Mae Danny Collins, David Vaughan a Boaz Myhill hefyd wedi tynnu allan o'r garfan ar gyfer y penwythnos.

Nid yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi manylion pam fod y pedwar wedi tynnu nôl.

Cafodd Lewin Nyatanga o Bristol City a golwr Crystal Palace, Lewis Price, eu galw i mewn i'r garfan gan Gary Speed.

Methodd Norwy a sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth Ewro 2012 i Bortiwgal ar wahaniaeth goliau.

Er i Gymru orffen yn bedwerydd yn eu grŵp, fe enillon nhw dair o'u pedair gêm ddiwethaf.

Carfan Cymru:

Wayne Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Lewis Price (Crystal Palace); Darcy Blake (Caerdydd), Chris Gunter (Nottingham Forest), Adam Matthews (Celtic), Neil Taylor (Abertawe), Lewin Nyatanga (Bristol City), Ashley Williams (Abertawe); Joe Allen (Abertawe), Gareth Bale (Tottenham Hotspur), Jack Collison (West Ham United), Andrew Crofts (Norwich City), David Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Leicester City), Joe Ledley (Celtic), Aaron Ramsey (Arsenal, capt), Hal Robson-Kanu (Reading); Craig Bellamy (Liverpool), Simon Church (Reading), Robert Earnshaw (Caerdydd), Steve Morison (Norwich City), Sam Vokes (Wolverhampton Wanderers).

Wrth gefn: Neal Eardley (Blackpool), Craig Morgan (Preston North End), Ashley Richards (Abertawe), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), David Cotterill (Abertawe), Andy Dorman (Crystal Palace), Brian Stock (Doncaster Rovers), Jonathan Williams (Crystal Palace), Jermaine Easter (Crystal Palace), Ched Evans (Sheffield United).