Canfod corff wedi difrod i bont
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n chwilio am lanc wedi dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff.
Roedd timau achub gyda chŵn, deifwyr a hofrennydd yr heddlu wedi bod yn chwilio Afon Wysg am Daniel Collins, 18 oed o Fryste.
Mae'r heddlu wedi bod yn ymchwilio i achos o ddwyn beic gyriant pedair olwyn a damwain.
Y gred yw bod Mr Collins yn y ddamwain ar bont hanesyddol yng Ngrughywel ar Hydref 30.
Cafodd tri dyn eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y corff wedi ei ddarganfod ddydd Llun wrth chwilio'r afon.
"Does 'na ddim manylion pellach am y llanc ac rydym wedi hysbysu'r crwner," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Roedd yr heddlu yn ymchwilio i achos o ddwyn beic gyriant pedair olwyn pan ddilynon nhw am gyfnod byr gerbyd darodd wal y bont.
Galwad
Mae'r bont yn dyddio'n ôl i 1706.
Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael galwad fod dau feic gyriant pedair olwyn a char Citroen yn cael eu gyrru'n ddiamcan.
Cafwyd hyd i un beic ger yr afon, yn ôl yr heddlu, ac roedd y llall gerllaw.
Fe gadarnhaodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddydd Llun eu bod yn ymchwilio i ddiflaniad Mr Collins.
Cafodd ei weld ddiwethaf ym Mryste ar Hydref 29, yn ôl yr heddlu.
"Roedd 'na bryder am ei ddiogelwch," meddai'r heddlu, "a'r gred yw ei fod yn gysylltiedig gyda'r ddamwain."
Mae'r achos wedi cael ei drosglwyddo i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2011