Teyrnged teulu i ddyn o Lanberis

  • Cyhoeddwyd
Kevin EdwardsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Kevin Edwards ar noson allan yng Nghaer gyda phump o ffrindiau

Mae teulu wedi rhoi teyrnged i ddyn 37 oed o Lanberis, wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yng Nghaer fore Llun.

Roedd Kevin Edwards, tad i ddau o blant, wedi mynd i aros i'r ddinas am benwythnos gyda phump o'i ffrindiau pan aeth ar goll yn ystod oriau man bore Sul.

Cadarnhaodd Heddlu Sir Caer fod corff wedi cael ei ddarganfod ger Swyddfa'r Post yn Stryd St John, Caer, toc wedi 9am ddydd Llun.

Yn ôl yr heddlu, does dim eglurhad i'r farwolaeth ar hyn o bryd.

Dydi'r heddlu ddim wedi cadarnhau enw'r dyn a fu farw.

Bydd y corff yn cael ei adnabod yn swyddogol yn ddiweddarach dydd Mawrth.

Ond mae teulu Mr Edwards yn credu mai ei gorff o a gafodd ei ddarganfod.

Dywedodd ei dad, Trefor Edwards, sy'n gynghorydd gyda Chyngor Gwynedd, eu bod yn credu "99.9% mai fo ydi o.

"'Di mynd i Gaer am noson oedd o hefo ffrindiau, pump ohonyn nhw.

"Roedd o wedi dweud fod o am gael trên yn ôl amser te ddydd Sul.

"O'n i'n ei weld yn od fod o ddim wedi tectsio na dim, fel bydda' fo fel arfer, a gawson ni ffôn tua phedwar o'r gloch gan un o'r hogiau'n dweud fod o ar goll."

Rhedwr brwd

Teithiodd y teulu i Lerpwl ddydd Mawrth i adnabod y corff yn swyddogol.

Roedd gan Kevin Edwards un chwaer, Cheryl, ac roedd yn dad i lanc 17 oed a merch wyth oed.

Roedd yn gweithio i Gymdeithas Tai Eryri.

Yn rhedwr brwd, roedd Kevin Edwards wedi cystadlu mewn nifer o rasys lleol, gan gynnwys Ras Yr Wyddfa.

Dywedodd ei dad bod lluniau o'i fab yn gadael clwb nos yng Nghaer yn oriau man fore Sul ac roedd yr heddlu wedi defnyddio cŵn a hofrennydd i chwilio amdano.

"Mae'n debyg fod lle oedd o'n aros drws nesa' i'r clwb - i'r chwith - ond ddaru o droi i'r dde.

"Ddaru'r heddlu ddweud fod 'na sgaffald o gwmpas adeilad y post, ac mae'n edrych fel bod Kevin wedi pwyso ar giât a bod hi 'di agor a bod o wedi disgyn i lawr yr ochr arall ac wedi taro ei ben."

Disgrifiodd Mr Edwards ei fab fel un oedd yn "gwneud hefo pawb, roedd ganddo ffordd o ddelio hefo pobl".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol