Dawnsiwr bale yn ddifrifol wael wedi ymosodiad
- Cyhoeddwyd

Mae dawnsiwr bale 19 oed yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi ymosodiad ym Mae Caerdydd.
Roedd Jack Widdowson o Gaerfaddon yn ymweld â'i frawd, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, pan gafodd eitemau eu dwyn yn ystod yr ymosodiad yn oriau mân ddydd Sadwrn.
Mae Heddlu'r De wedi dweud bod yr ymosodiad yn "ofnadwy" ac am siarad â dyn oedd yn gwisgo crys-T polo gwyn gyda streipiau.
Roedd yr ymosodwr yn cerdded gyda Mr Widdowson - prentis o ddawnsiwr gyda Bern: Ballett, yn Stadttheater Bern yn Y Swistir - yn ardal Teras Biwt am 00:45am ddydd Sadwrn.
Daethpwyd o hyd i'r dawnsiwr yn y stryd ychydig ar ôl 2:00am ac aed ag ef i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd lle mae ei deulu wedi bod wrth erchwyn ei wely.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Shane Ahmed o Heddlu'r De: "Mae'r digwyddiad hwn yn ofnadwy.
"Er i'r ymosodiad ddigwydd yn oriau mân y bore, fe fyddai nifer o bobl allan er eu ffordd i ganol y ddinas neu'n dod oddi yno."
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 02920 527420, neu 101, neu Daclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.