Dynes wedi marw mewn damwain car
- Published
Bu farw dynes 34 oed ar ôl damwain car ym Mhen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth.
Roedd ffordd yr A4064 rhwng Brynmenyn a Llangeinor ar gau am bum awr wedi'r ddamwain tua 10.10am.
Bu farw'r ddynes 34 oed, oedd yn byw yn lleol, yn y fan a'r lle.
Cafodd merch 14 oed a merch ddyflwydd oed eu hanafu ac aed â'r ddwy i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont.
Dywedodd Heddlu De Cymru mai un car oedd yn y ddamwain, car BMW 325 gwyrdd.
Mae swyddog arbennig gyda'r heddlu yn cynnig help a chefnogaeth i'r teulu.
'Tystion'
Mae'r crwner wedi ei hysbysu.
"Rydym yn apelio am dystion," meddai'r Arolygydd Rob Gwynne-Thomas o Heddlu De Cymru.
"Roedd y ffordd yn brysur ar y pryd ac rydym yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd.
"Rydym hefyd eisiau clywed oddi wrth unrhyw un welodd y car yn cael ei yrru cyn y ddamwain neu unrhyw un sydd heb gysylltu gyda ni eisoes."
Cafodd y ffordd ei hailagor am 3pm wedi i'r heddlu gynnal ymchwiliad fforensig a symud y cerbyd.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad tra oedd y ffordd ar gau," meddai'r arolygydd.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.