£13.5 miliwn i barc busnes
- Cyhoeddwyd
Cyhoeddodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis, fod cynllun i ddatblygu parc busnes strategol yn Sir Gaerfyrddin wedi cael miliynau o bunnoedd ychwanegol gan yr Undeb Ewropeaidd.
Caiff y £13.5 miliwn ei ddefnyddio i ddatblygu parc cyflogaeth strategol newydd yn Cross Hands lle bydd modd cyflogi dros 1,000 o bobl.
Bydd y prosiect yn creu isadeiledd ar y safle i sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu'n lleoliad amlwg i fusnesau a'i fod yn cynnig canolfan o safon i brosiectau datblygu diwydiannol a phrosiectau ehangu.
Bydd y gwaith penodol yn cynnwys ffordd fynediad newydd o'r A48, ynghyd ag adeiladu ffordd fewnol newydd a darparu trydan, nwy, dŵr, system ddraenio, goleuadau a gwaith tirlunio i sicrhau bod y fioamrywiaeth bresennol yn cael ei gwarchod a'i gwella.
Mae'r cynlluniau i ddatblygu'r safle yn dal i ddibynnu ar drafodaethau i benderfynu a gaiff rhai parseli tir eu gwerthu.
'Manteision'
Yn y pecyn arian, mae £9 miliwn gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhaglen Ardal Adfywio Cymoedd y Gorllewin, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a'r grant Trafnidiaeth.
Caiff y gwaith datblygu ei reoli a'i wneud gan Gyngor Sir Caerfyrddin sy'n buddsoddi £4 miliwn yn y cynllun.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis: "Bydd y gwaith o ddatblygu'r safle hwn yn rhoi hwb i economi'r rhanbarth drwy sicrhau ei fod yn hawdd ei gyrraedd, ei fod o safon uchel a bod busnesau'n ffynnu, gan ddenu rhagor o fuddsoddiad ac arwain at ragor o gyfleoedd gwaith. "
Arferion gwyrdd
Gallai'r safle newydd fod yn esiampl o ddatblygiad sy'n ei gwneud yn bosibl i fusnesau weithredu gan ddefnyddio llai o garbon na'r cyfartaledd presennol.
Bydd busnesau tebyg yn gallu dangos bod arferion gwyrdd yn sicrhau mwy o werth am arian, gan gynhyrchu llai o wastraff, ailgylchu gwastraff yn gymunedol a defnyddio lle yn effeithlon.
Dywedodd y Cyng. Clive Scourfield, aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar gyfer Adfywio: "Mae'n newyddion gwych bod yr arian hwn wedi'i ddyrannu ar gyfer seilwaith a bydd yn rhoi hwb mawr i'r Sir.
"Er gwaethaf y cyfnod economaidd anodd, mae'n hanfodol ein bod ni'n datblygu'r safleoedd i sicrhau bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi mewn busnesau a bod y busnesau hynny'n cael eu hehangu.
"Caiff yr arian, gan gynnwys buddsoddiad cyfalaf sylweddol y Cyngor Sir ei hun o tua £4 miliwn, ei ddefnyddio i ddarparu amgylchedd busnes cynaliadwy, creu rhagor o swyddi a chyfrannu at y gwaith o adfywio ardal Cymoedd y Gorllewin."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2011
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2010