Llanelli'n codi i'r ail safle

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Mae Llanelli wedi codi i'r ail safle yn Uwchgynghrair Cymru yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Caerfyrddin nos Fawrth.

Yn y pum gêm ddiwethaf rhwng y ddau glwb, Mae Rhys Griffiths o Lanelli wedi sgorio 11 gôl gan gynnwys sgorio hat-tric deirgwaith.

Roedd Chris Llewelyn eisoes wedi rhoi Llanelli ar y blaen yn yr hanner cyntaf pan ddaeth yr anochel - Griffiths yn sgorio wedi 53 munud i ddyblu'r fantais a sicrhau'r pwyntiau.

Roedd tor-calon i'r Drenewydd ym Mhrestatyn.

Aeth y clwb o'r canolbarth ar y blaen wedi 62 munud diolch i gynnig Nick Rushton, ond gyda chwarter awr o'r gêm yn weddill fe ddaeth Darren Hughes â'r tîm cartref yn gyfartal gyda'i gyffyrddiad cyntaf bron wedi iddo ddod i'r cae fel eilydd.

Yna ym munud ola'r gêm daeth cic o'r smotyn i Brestatyn, ac fe sgoriodd Neil Gibson o'r smotyn i sicrhau triphwynt iddyn nhw.

Yn y gêm arall nos Fawrth, aeth Y Bala ar y blaen o ddwy i ddim ym Mhort Talbot diolch i Lee Hunt a Mark Connolly.

Ond fe ddaeth Port Talbot yn ôl i gipio pwynt gyda dwy gôl gan Martin Rose.

Daeth diwedd i obeithion yr ymwelwyr o gael pwyntiau llawn pan welodd Lee Hunt y cerdyn coch wedi iddo weld y cerdyn melyn ddwywaith o fewn munud 20 munud cyn y chwib olaf.

Canlyniadau:-

Nos Fawrth

Llanelli 2-0 Caerfyrddin

Port Talbot 2-2 Y Bala

Prestatyn 2-1 Y Drenewydd

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports: Nos Fawrth Tachwedd 8 2011.

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1.Y Seintiau Newydd 14 +21 35
2. Llanelli 15 +20 30
3. Bangor 14 +11 29
4. Bala 15 +9 28
5. Castell-nedd 14 +14 27
6. Prestatyn 15 +2 20
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Port Talbot 15 -4 18
8. Airbus UK Brychdyn 14 -13 13
9. Y Drenewydd 15 -20 13
10. Lido Afan 14 -12 11
11. Aberystwyth 14 -14 10
12. Caerfyrddin 15 -20 9

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.