Tân: Achub tri phlentyn a dau oedolyn

  • Cyhoeddwyd

Mae diffoddwyr tân wedi achub pump o bobl, gan gynnwys tri o blant o dan 4 oed o dân mewn tŷ yn Sir y Fflint.

Cafodd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Stryd Bryn Mawr yn Nhreffynnon am 3.20am ddydd Mercher gan ganfod fod y cyntedd wedi ei ddifrodi gan fwg.

Nid oedd angen triniaeth yn yr ysbyty ar yr un o'r pump a gafodd eu hachub ond fe gafodd dyn a menyw yn eu hugeiniau, merch tair blwydd oedd, bachgen 18 mis oed a merch 8 mis oed eu hasesu gan barafeddygon yn y fan a'r lle.

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos y tân.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol