Dinas i anrhydeddu cyn filwyr Rhyfel Cartref Sbaen

Ffoaduriaid yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen Image copyright Not Specified
Image caption Roedd yn rhaid i nifer o bobol ffoi yn ystod y Rhyfel Cartref

Bydd cofgolofn i ddynion Abertawe oedd wedi ymladd yn erbyn ffasgaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen yn cael ei chreu yng Nghanolfan Ddinesig y ddinas.

Saith deg pum mlynedd ar ôl dechrau'r rhyfel lle gwirfoddolodd miloedd o ddynion o Brydain, bydd y dynion o Abertawe a gymerodd ran yn cael eu hanrhydeddu gyda'u cofgolofn eu hunain am y tro cyntaf.

Ac mae Cyngor Abertawe yn apelio at berthnasau'r rhai a oedd wedi ymladd i weld eu hanwyliaid yn cael eu hanrhydeddu wrth ddadorchuddio'r gofgolofn y mis nesaf.

Dywedodd y Cyng. Ioan Richard, Arglwydd Faer Abertawe: "Mae tri chwarter canrif wedi mynd heibio ers i ddynion o'n dinas ymdeithio i gefnogi llywodraeth etholedig Sbaen i ymladd yn erbyn ffasgyddion Franco.

Ffasgaeth

"Er bod cofgolofnau eraill i'r Cymry a fu farw a chyn milwyr y rhyfel, dyma fydd y cyntaf o'i bath sy'n gyflwynedig i'r dynion o Abertawe a oedd yn barod i wneud yr aberth eithaf dros ddemocratiaeth."

Ychwanegodd Mr Richard fod neges Rhyfel Cartref Sbaen, sef ei bod hi'n werth ymladd dros ddemocratiaeth yn dal i adleisio yng Ngwanwyn Arabaidd eleni lle gwelwyd pobl gyffredin mewn gwledydd megis Tiwnisia, Yr Aifft a Libia yn cael eu hysbrydoli i ymladd yn erbyn cyfundrefnau gormesol.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Cafodd George Orwell ei saethu yn ei wddf yn ystod y Rhyfel Cartref

Mae Cyngor Abertawe wedi gweithio gyda'r Gymdeithas Frigadau Ryngwladol i nodi'r dynion hynny a oedd yn byw yn Abertawe ac a oedd wedi ymladd yn y rhyfel o 1936 i 1939.

Ond mae'r awdurdod yn awyddus bod perthnasau'r rhai a oedd wedi ymuno i ymladd yn erbyn ffasgaeth yn cael cyfle i fod yno.

Enwau'r rhai a fu farw a gaiff eu coffáu ar blac y Ganolfan Ddinesig fydd R Horridge, J Scott a J Watts.

Y cyn filwyr a ddychwelodd adref oedd T Collins, M Havard, B Jenkins, D Ledbury, T W Reynolds, H Stratton, F Thomas ac R Watts.

Cyndeidiau

Dywedodd Mr Richard, a fydd yn dadorchuddio'r plac: "Rydym wedi gweithio'n galed iawn i nodi'r dynion hynny o'r ddinas a oedd wedi ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen.

"Ond ar ôl cynifer o flynyddoedd, mae wedi bod yn anodd olrhain perthnasau'r rhai a oedd yno.

Image copyright Not Specified
Image caption Roedd y Cadfridog Franco mewn grym tan 1975

"Dyna pam rydym yn annog pobl i gysylltu â ni fel y gallant fod yno i helpu'r ddinas i anrhydeddu atgofion eu cyndeidiau.

"Gwirfoddolodd o leiaf un glöwr o'm pentref i, Craig-cefn-parc, sef Mr Havard, ar gyfer y Brigadau Rhyngwladol.

"Collodd fraich a dychwelodd yn arwr.

"Mae ei deulu agos yn dal i fyw yma. Mae Craig-cefn-parc, fel Abertawe gyfan, yn falch ohonynt i gyd."

Maes y gad

Cafodd y Brigadau Rhyngwladol eu niferoedd o bedwar ban byd a chawsant gefnogaeth gan awduron ac artistiaid enwog megis Picasso, George Orwell ac Ernest Hemingway.

Dechreuodd y rhyfel ym 1936 gyda gwrthryfel milwrol gan fyddin Sbaen dan arweiniad y Cadfridog Franco yn erbyn llywodraeth Gweriniaethol adain chwith a oedd wedi ennill Etholiad Cyffredinol bum mis yn gynharach.

Cefnogwyd Franco gan Hitler a Mussolini a rhoddodd Stalin, arweinydd yr Undeb Sofietaidd, gymorth i achos y Gweriniaethwyr.

Bu farw mwy na 500,000 o bobl yn y rhyfel, tua 200,00 ohonynt wrth ymladd.

Erbyn diwedd y Rhyfel Cartref roedd 177 o Gymru wedi ymladd ar faes y gad a chafodd 33 ohonynt eu lladd.

Roedd y Cadfridog Franco yn fuddugol ym 1939 a chafodd gweriniaethwyr eu dienyddio, eu carcharu neu eu halltudio.

Roedd Franco mewn grym tan 1975.

Dylai perthnasau cyn filwyr a hoffai ddod i'r dadorchuddiad ffonio Jo-anne Cutler ar 01792 637553 i gael mwy o fanylion.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.