Rhybudd cwmni Admiral am elw
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp yswiriant Admiral wedi dweud y gallai nifer uchel o geisiadau oherwydd anafiadau personol effeithio ar faint ei elw.
Cwympodd pris cyfranddaliadau Admiral 20% wrth i fasnachu gychwyn ddydd Mercher.
Yn 2010 cyhoeddodd y cwmni - sy'n cyflogi dros 4000 o bobl yng Nghymru - elw cyn treth o £266 miliwn, cynnydd o 23% ers 2009.
Ond dywedodd y byddai'r elw cyn treth eleni yn debyg o fod "ar lefel isaf disgwyliadau'r farchnad".
'10%'
Dywedodd prif weithredwr y grŵp, Henry Engelhardt: "... rydym yn disgwyl elw ar gyfer y flwyddyn lawn fydd tua 10% yn uwch na'r llynedd".
Mae'r grŵp, sydd hefyd yn cynnwys cwmnïau Confused.com, Elephant.co.uk a Diamond, yn cyflogi gweithwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.
Yn hanner cyntaf 2011 roedd gan Admiral 3.15 miliwn o gwsmeriaid o'i gymharu â 2.37 miliwn yn yr un cyfnod y llynedd.
Yn gynharach eleni, fe wnaeth y cwmni ddatgelu eu cynlluniau ar gyfer pencadlys newydd yng Nghaerdydd.
1,800
Bydd tua 1,800, sy'n gweithio mewn tri safle gwahanol yn y ddinas, yn symud i'r adeilad newydd ar safle maes parcio ger Canolfan Siopa Dewi Sant.
Mae disgwyl i'r pencadlys newydd gael ei gwblhau erbyn 2014.
Cwmni Admiral ydi'r unig gwmni o Gymru sydd ym Mynegai Can Cwmni'r FT.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2011
- Cyhoeddwyd24 Awst 2011
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2011
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2011