Pwll slyri: Tynnu cais yn ôl

Pentrefwyr yn edrych ar y safle'r lagŵn slyri arfaethedig Image copyright BBC news grab
Image caption Byddai'r slyri wedi cael ei bwmpio hanner milltir o'r fferm i'r lagŵn

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cadarnhau bod cynlluniau i greu pwll slyri enfawr ger pentref wedi cael eu tynnu'n ôl.

Roedd ffermwr llaeth lleol, Paul Vizza, am godi lagŵn clawdd pridd fyddai'n dal hyd at 2.7 miliwn o alwyni o slyri ar fferm laeth Brynfa ger Hermon.

Mae 'na ymgyrch leol wedi bod yn erbyn y penderfyniad am fod pentrefwyr yn poeni am arogleuon a sgil effeithiau iechyd posib.

Nid yw'n glir a fydd cynlluniau newydd yn cael eu cyflwyno.

Mae'r safle 8,800 medr sgwâr (95,000 troedfedd sgwâr) ar dir amaethyddol i'r gogledd ddwyrain o'r ffordd leol rhwng Hermon a Chrymych.

Image copyright BBC news grab
Image caption Mae slyri gwartheg yn isgynnyrch gwerthfawr yn y diwydiant llaeth

Roedd y cais cynllunio yn dangos y byddai'r slyri yn cael ei bwmpio drwy bibellau o Fferm Brynfa i'r lagŵn tua hanner milltir i ffwrdd.

Roedd 'na argymhelliad y dylai'r cyngor dderbyn y cais.

Ym mis Mawrth dywedodd Mr Vizza wrth BBC Cymru fod gwrthwynebiad i'r cynllun "yn gyfyngedig yn y pentre'" a'i fod wedi dilyn y dulliau gweithredu priodol.

Dywedodd bryd hynny y byddai'n adeiladu'r lagŵn "er mwyn dilyn rheolau newydd ar slyri ac i barhau â'r busnes."

Ychwanegodd y byddai'n gwahodd aelodau o'r gymuned leol i edrych ar y safle a bod 'na gynlluniau i ychwanegu deunydd at y slyri fyddai'n lleihau'r arogl.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.