Ymosodiad ar Jack Widdowson: Arestio dyn

Jack Widdowson Image copyright Other
Image caption Ymosodwyd ar Jack Widdowson yn oriau mân fore Sadwrn

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ymosodiad ar ddawnsiwr bale 19 oed yng Nghaerdydd yn oriau mân ddydd Sadwrn wedi arestio dyn.

Roedd Jack Widdowson o Gaerfaddon yn ymweld â'i frawd, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, pan gafodd eitemau eu dwyn yn ystod yr ymosodiad.

Cafodd dyn 23 oed ei arestio fore Mercher yn ardal Y Rhath yn y brifddinas ar amheuaeth o ymosod a lladrata.

Mae Mr Widdowson yn parhau yn ddifrifol wael yn yr ysbyty wedi'r ymosodiad ym Mae Caerdydd.

Cyn ymosod roedd y dyn yn cerdded gyda Mr Widdowson - prentis o ddawnsiwr gyda Bern: Ballett, yn Stadttheater Bern yn Y Swistir - yn ardal Teras Biwt am 00:45am ddydd Sadwrn.

Daethpwyd o hyd i'r dawnsiwr yn y stryd ychydig ar ôl 2:00am ac aed ag ef i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd lle mae ei deulu wedi bod wrth erchwyn ei wely.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 02920 527420, neu 101, neu Daclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.