Rali’r byd yn dychwelyd i’r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Jason PritchardFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Mae Jason wedi bod yn gyrru’r un Subaru Impreza ers dwy flynedd

Bydd pencampwr rali'r byd yn cael ei goroni dros y penwythnos wrth i gymal olaf y gystadleuaeth ddychwelyd i ogledd Cymru.

Nid yw'r rali wedi rasio o amgylch Pen y Gogarth ers yr 1980au, a heb daclo coedwig Clocaenog ger Rhuthun ers 1996.

Sebastien Loeb o Ffrainc a Mikko Hirvonen o'r Ffindir fydd yn brwydro am y bencampwriaeth, ond bydd sawl gyrrwr a chyd-yrrwr o Gymru hefyd yn dychwelyd adref am rali olaf y tymor.

Yn eu plith mae Jason Pritchard o Lanfair-ym-Muallt. Fel amatur, mae Jason yn gwerthfawrogi cael cystadlu yn erbyn goreuon y byd ralio.

"Rydym wedi bod yn edrych ar y cyrsiau ac maent yn edrych yn wych, er dwi'n gobeithio na fydd yna rew," meddai Jason, sy'n paratoi ei gar efo cymorth ei ffrindiau.

"Dwi ddim eisiau landio yn y môr oddi ar Ben y Gogarth os alla'i osgoi hynny!

Disgrifiad,

Rhian Price yn holi Emyr Hall o Glwb Moduro'r Bala ar y Post Cyntaf fore Iau.

Rali ar y radio

"Yr her fwyaf yw hyd y gystadleuaeth. Rhaid i ni gadw at amser cyflym, heb dorri'r car; y peth anodd yw cadw'r balans yna."

Ond am y miliynau o amgylch y byd na fydd yn gallu dod i ogledd Cymru i wylio'r gyrwyr, bydd gwasanaeth radio o Ruthun yn cynnig sylwebaeth ar bopeth sy'n digwydd.

Mae World Rally Radio (WRM), sy'n cynnig gwasanaeth i ffannau rali ledled y byd, yn darlledu o adeilad o'r 17eg ganrif ar Stryd y Ffynnon, oedd gynt â hanes amheus yn ymwneud â chyffuriau.

Cyfarwyddwr Crown House Media sy'n rhedeg WRR yw Chris Rawes, 36, cyn-ddisgybl yn Ysgol Brynhyfryd.

"Y peth yw, gall fod oedi yn yr ymdriniaeth ar y teledu felly mae'r ffans yn gwrando arnom ni," meddai Chris, sy'n arwain tîm o chwech sydd wrthi'n darlledu llawn amser i dros 2.5m o bobl.

"Mae hyd yn oed y timau yn gwrando arnom gan fod y gyrwyr yn ymddiried ynom ac yn siarad efo ni yn ddigon agored weithiau.

"Ac mae hyn oll yn dod trwof i, mewn stiwdio yn Rhuthun."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Nid yw’r rali wedi ymweld â Llandudno ers 1981

Ond ni fydd agosatrwydd y rali tro yma yn gwneud gwahaniaeth i waith yr orsaf fach.

"Mae o'n gyffrous i gael y rali yn ôl yng ngogledd Cymru, gyda chymal yng nghoedwig Clocaenog," meddai Chris.

"Ond er y bydd y rali dim ond ychydig o filltiroedd i lawr y lon tro yma, byddwn yn gweithio arno yn yr un ffordd a phetai'r rali yn Ariannin, Awstralia neu Fecsico."

Bydd bron i 80 o yrwyr yn cystadlu yn y bencampwriaeth, gan gychwyn ar Stryd Mostyn, Llandudno am 2.30 ar Dachwedd 10.

Ar ôl cymal yng nghoedwig Clocaenog, byddant yn dychwelyd i Landudno i daclo Pen y Gogarth gyda'r nos.

Ar Dachwedd 11, bydd y gystadleuaeth yn symud ymlaen i ardal Aberystwyth, yna i ardal Brycheiniog ar Dachwedd 12 cyn gorffen o flaen Castell Caerdydd am 3 o'r gloch ar Dachwedd 13.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol