Cadarnhau mai llanc oedd mewn afon

  • Cyhoeddwyd
Difrod i Bont CrughywelFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y bont ei difrodi ar Hydref 30

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau mai corff Daniel Collins, 17 oed o Fryste, a ddarganfuwyd yn Afon Wysg ddydd Llun.

Roedd timau achub gyda chŵn, deifwyr a hofrennydd yr heddlu wedi bod yn chwilio amdano.

Mae'r heddlu wedi bod yn ymchwilio i achos dwyn beic gyriant pedair olwyn a damwain ar bont hanesyddol yng Ngrughywel ar Hydref 30.

Cafodd tri dyn eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd yr heddlu yn ymchwilio i achos dwyn beic gyriant pedair olwyn pan ddilynon nhw am gyfnod byr gerbyd darodd wal y bont.

Galwad

Mae'r bont yn dyddio'n ôl i 1706.

Roedd yr heddlu wedi cael galwad fod dau feic gyriant pedair olwyn a char Citroen yn cael eu gyrru'n ddiamcan.

Cafwyd hyd i un beic ger yr afon, yn ôl yr heddlu, ac roedd y llall gerllaw.

Cafodd Mr Collins ei weld ddiwethaf ym Mryste ar Hydref 29, yn ôl yr heddlu.

Mae'r achos wedi cael ei drosglwyddo i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol