Taith awyren: Hanner awr arall

Maes Awyr Caerdydd Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Fe fydd hyn yn ychwanegu o leiaf 30 munud ar deithiau o Gaerdydd i Zurich

Fe fydd awyrennau cwmni Helvetic Airlines sy'n teithio o Gaerdydd i Zurich yn stopio ym Mryste o Ragfyr 5, medd Maes Awyr Caerdydd.

Dechreuodd y teithiau o Gaerdydd i'r Swistir ym mis Mawrth gyda theithiau bedwar diwrnod yr wythnos (tair yn y gaeaf).

Fe fydd y newid yn ychwanegu o leiaf 30 munud at y teithiau o Gaerdydd.

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd mewn datganiad: "Mae Helvetic Airways wedi cyhoeddi'r penderfyniad i weithredu'r daith o Gaerdydd i Zurich drwy Fryste er mwyn rhannu'r risg o redeg teithiau yn ystod misoedd y gaeaf.

"Ond mae'r cwmni yn nodi na fydd gwahaniaeth prisiau'r tocynnau rhwng Caerdydd a Bryste ac fe fydd hi'n bosib prynu tocyn dwy ffordd am gyn lleied â £150 y person.

"Mae'r daith i Zurich angen cefnogaeth teithwyr o Gymru er mwyn perswadio'r cwmni awyrennau i weithredu o Gaerdydd yn ddistop drwy fisoedd yr haf.

"Mae'r maes awyr wedi sefydlu'r daith drwy ddenu'r cwmni awyrennau ond y cwmni a'r cyhoedd fydd yn penderfynu pa mor llwyddiannus fydd hyn."

Beirniadu

Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, Neil McAvoy, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â sicrhau teithiau busnes newydd allan o Faes Awyr Caerdydd.

Dywedodd y Cynghorydd McAvoy fod angen teithiau o Gaerdydd i Efrog Newydd a Dubai er mwyn denu busnes newydd i Gymru.

Ychwanegodd y byddai hynny'n hwb i'r parth busnes sy'n cael ei gynllunio ar gyfer Caerdydd.

Dywedodd y dylai'r Gweinidog Busnes, Edwina Hart, fod wedi teithio i America yn barod i sicrhau cytundeb, ac nad oedd yn deall y rheswm am yr oedi.

Rhoi'r gorau

Fe benderfynodd cwmni bmibaby hedfan o Gaerdydd am y tro olaf ar Hydref 30 wedi bron 10 mlynedd o ddefnyddio Maes Awyr Caerdydd.

Fe gyhoeddodd y cwmni ym mis Ebrill ei fod yn rhoi'r gorau i hedfan o feysydd awyr Caerdydd a Manceinion ddiwedd tymor yr haf oherwydd y sefyllfa economaidd.

Ond ar Hydref 28, fe wnaeth cwmni awyrennau o Sbaen, Vueling, gyhoeddi eu bwriad i ddechrau hedfan o Barcelona i Gaerdydd o fis Mawrth 2012 ymlaen.

Roedd awyrennau bmibaby yn hedfan i naw lleoliad o Gaerdydd ac ar un adeg Caerdydd oedd ail ganolfan fwyaf y cwmni ym Mhrydain.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn cydweithio yn agos gyda'r maes awyr ac yn cynnig cefnogaeth o ran marchnata a hyrwyddo, gan gadw golwg ar drafodaethau rhwng y maes awyr a chwmnïau eraill.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.