Cytundeb £170m yn arwain at drenau gorlawn

Trên Arriva Cymru Image copyright Other
Image caption Dywedodd Trenau Arriva Cymru eu bod wedi buddsoddi dros £30 miliwn

Mae'r cytundeb blynyddol o £170 miliwn gyda Trenau Arriva Cymru yn "ddiffygiol" ac wedi arwain at ddegawd o drenau gorlawn i deithwyr, yn ôl cyn-weinidog trafnidiaeth Cymru.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones, etifeddodd y cytundeb pan ddaeth yn weinidog yn 2007, ei fod yn rhwystredig tu hwnt ynglŷn â chynnwys y cytundeb ac y dylai newid yn sylfaenol yn 2018.

Drwy'r wythnos fe fu BBC Cymru yn craffu ar gymorthdaliadau i'r rheilffyrdd fel rhan o ymgais i ddadansoddi gwariant y llywodraeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dalu cymhorthdal o £170 miliwn y flwyddyn i Trenau Arriva Cymru dan dermau'r cytundeb 15 mlynedd arwyddwyd yn 2003 ac sy'n dod i ben yn 2018.

Yn ôl ffigyrau o Swyddfa Reoleiddio'r Rheilffyrdd, Trenau Arriva Cymru oedd y cwmni dderbyniodd y cymhorthdal uchaf y pen y llynedd, y filltir o holl gwmnïau'r Deyrnas Gyfunol.

Mwy o deithwyr

Fe ddywedodd y cwmni ei fod wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnau mewn gwasanaethau, yn aml iawn y tu hwnt i alwadau'r cytundeb.

"Yr hyn oedd yn amlwg oedd nad oedd y cytundeb yn cydnabod y twf aruthrol yn niferoedd y teithwyr fu ers 2003," meddai Mr Jones.

"Y disgwyl oedd y byddai niferoedd teithwyr yn tyfu'n arafach o lawer nag y gwnaeth mewn gwirionedd, felly mae yna esiamplau lu, yn enwedig ar wasanaethau'r Cymoedd, o drenau gorlawn a dim mwy o wasanaethau ar gael.

"Oherwydd y modd yr ysgrifennwyd y cytundeb, doedd dim cyfrifoldeb ar Arriva i gyflenwi mwy o wasanaethau, ac am ein bod ni'n teimlo ei bod hi'n angenrheidiol i gwrdd â'r gofyn, fe fu'n rhaid i ni dalu o'n harian ein hunain, felly roedd yn rhaid i ni fel llywodraeth dalu mwy na'r hyn gytunwyd, er mwyn mynd i'r afael a phroblemau gorlenwi.

"Roedd y cytundeb gwreiddiol yn ddiffygiol am nad oedd wedi rhagweld y cynnydd gwirioneddol yn nifer y teithwyr".

Mae'r cyn-weinidog nawr am weld newidiadau sylweddol, gan gynnwys model sy'n ail fuddsoddi elw, yn hytrach na'i rhannu ymhlith cyfranddalwyr.

Yn ôl yr arbenigwr ar drafnidiaeth, Yr Athro Stuart Cole o Brifysgol Morgannwg, fe allai model felly arwain at welliannau gwirioneddol i deithwyr Cymru.

Mwy o drenau

"Mae'r potensial yna i gadw'r elw yng Nghymru," meddai.

"Mae'n deg dweud bod yn rhaid i gwmnïau sy'n rhedeg trenau wneud elw i'w cyfranddalwyr.

"Y broblem benodol oedd gyda'r cytundeb yng Nghymru oedd ei fod wedi'i seilio ar alw isel o ran teithwyr, a dyw'r galw isel yna ddim wedi parhau.

"A dweud y gwir, mae wedi tyfu'n sylweddol.

"Fe fu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael gafael ar ragor o drenau, drwy Arriva, ac mae hynny'n ychwanegu at y gost."

Yn ôl y cwmni, doedd dim lle yn y cytundeb gwreiddiol gydag awdurdod strategol y rheilffyrdd i fuddsoddi, ond roedden nhw wedi buddsoddi dros £30 miliwn mewn gwella'r gwasanaeth i deithwyr mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Yn ôl llefarydd, "Rydyn ni wedi cynyddu nifer y gwasanaethau yng Nghymru lle'r oedd hynny'n bosib, mewn ardaloedd lle'r oedd galw mawr gan deithwyr ac mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer y teithwyr.

"Mae nifer o'r newidiadau yma yn mynd y tu hwnt i ymrwymiadau Trenau Arriva Cymru a'i gytundeb, a doedd dim cost ychwanegol i drethdalwyr.

"Ers i ni ymgymryd â'r cytundeb, mae teithwyr wedi parhau'n fodlon â safon ein perfformiad wedi parhau'n uchel ac mae nifer y teithwyr wedi parhau i dyfu.

"Mae Trenau Arriva Cymru yn dal i drafod gwasanaethau'r dyfodol a delio gyda'r cynnydd o ran teithwyr gyda'r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru, sydd wedi buddsoddi'n sylweddol hefyd."

Ail-fuddsoddi

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "arwain y broses i ail-gynnig cytundeb rheilffyrdd Cymru a'r gororau pan ddaw i ben yn 2018, ac rydyn ni'n gwneud gwaith paratoi ar hyn o bryd".

"Rydyn ni'n benderfynol i edrych o ddifri ar gynnig y cytundeb nesaf ar dermau ail-fuddsoddi unrhyw elw," meddai.

"Ar hyn o bryd mae swyddogion wrthi'n ystyried sut i sicrhau'r gwerth gorau am arian.

"Mae cyswllt yma a chynlluniau eraill, yn enwedig trydanu'r rhwydwaith yng Nghaerdydd a'r Cymoedd - gan gynnwys Glyn Ebwy, Maesteg a Bro Morgannwg - sy'n flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod rheoli i ddod.

"Rydyn ni'n gweithio'n agos iawn a'r Adran Drafnidiaeth ac yn bwriadu cytuno ar gynllun busnes erbyn mis Rhagfyr".

Mewn cyfres o adroddiadau drwy gydol yr wythnos mae BBC Cymru hefyd wedi edrych ar wariant Llywodraeth Cymru; grantiau busnes a'r amgylchedd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.